Palaeontoleg

Dant y deinosor Cymreig Dracoraptor hanigani

Trilobitau Ordoficaidd Ogygiocarella o Lanelwedd

Bryosoad Ordoficaidd o ogledd Cymru

Amonit Jwrasig o Dorset mewn cyflwr gwych yn dangos pigau main

Planhigyn ffosil carbonifferaidd o gasgliad Brymbo

Mae ffosilau yn cofnodi esblygiad bywyd ar y Ddaear, ymateb bywyd i newid yn yr hinsawdd a lefel y môr, a sut mae wedi newid yr amgylchfyd. Mae gan Amgueddfa Cymru arddangosiadau gwych o ddeinosoriaid, ymlusgiaid morol, amonitau, planhigion corsydd glo a trilobitau, ac yn ein storfeydd mae un o gasgliadau mwyaf y DU o ffosilau yn cofnodi bywyd yn y gorffennol.

Casgliadau

Mae'r casgliad Palaeontoleg yn gryf ym meysydd:

  • Brachiopodau a trilobitau Palaeosoig o bedwar ban byd
  • Amonitau a deufalfiau Prydain y cyfnod Mesosoig
  • Planhigion Silwraidd, Defonaidd a Carbonifferaidd Prydain
  • Y casgliad o deipiau sydd wedi'u darlunio a'u dyfynnu

Mae gennym nifer o gasgliadau pwysig gan unigolion:

  • Mae casgliad trilobitau Sheldon, casgliad foraminifera Pearson ac Ezard a casgliad deufalfiau Trueman ill tri yn rhoi tystiolaeth o esblygiad a newid graddol mewn ffurf dros filiynau o flynyddoedd
  • Casgliad amonitau Jwrasig J.F. Jackson a gasglwyd ar arfordir Dorset yn y 1960au, a chasgliad Martin Foster
  • Casgliad David Davies o blanhigion ffosil o lofeydd gweithiol sy'n cynnwys dros 16,000 o sbesimenau
  • Casgliad Brachiopodau Mesosoig Prydain Derek Ager
  • Rydym hefyd yn gofalu am Gasgliad Ymlusgiaid Morol Jwrasig Moore ar ran y perchnogion, Sefydliad Llenyddol a Gwyddonol Brenhinol Caerfaddon.

Ymchwil

  • Systemateg, tacsonomeg, bioddaearyddiaeth, biostratigraffeg ac ecoleg anifeiliaid Palaeosoig mewn bryosoaid, trilobitau a brachiopodau penodol
  • Anifeiliaid a stratigraffeg de Cymru
  • Dadansoddiad geogemegol o ffosilau carbonad a sut y gall y dechneg ateb cwestiynau ar hinsawdd y ddaear yn ei hanes dwfn
  • Palaeofotaneg – datgelu patrymau o ddifodiant mawr a newid hinsawdd yn hanes dwfn y ddaear.

Palaeontology

Dr Caroline Buttler

Pennaeth Palaeontoleg
Gweld Proffil

Cindy Howells

Curadur: Palaeontoleg
Gweld Proffil

Dr Lucy McCobb

Uwch Guradur (Palaeontoleg)
Gweld Proffil