Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Newyddion
5 peth na ddylech chi eu colli yng Ngŵyl Fwyd Sain Ffagan
9 Medi 2026
Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar y gweill! Ymunwch a ni ar 12 a 13 Medi am benwythnos o weithgareddau bwyd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.
I wneud y gorau o’ch ymweliad, cymerwch olwg ar fap yr ŵyl a’r rhaglen am fanylion am yr holl weithgareddau gallwch gymryd rhan ynddynt.
Dyma ambell i beth na ddylech chi eu colli.
Opsiynau Bwyd
Gyda dros 60 stondin bwyd a diod, bydd rhywbeth at ddant pawb, gan gynnwys digonedd o opsiynau fegan a ‘rhydd rhag’. Bydd pob stondin yn cynnig pryd o fwyd am £7 eleni felly bydd digon o opsiynau fforddiadwy.
Cymerwch olwg ar y rhestr lawn o stondinau bwyd.
Cymdeithas Lysiau Genedlaethol
Rydym wrth ein bodd yn cynnal Pencampwriaeth ysblennydd y Gymdeithas Lysiau Cenedlaethol, fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan eleni eto.
Edrychwn ymlaen at groesawu arddangoswyr o bob rhan o'r DU i Gaerdydd. Gan ein bod wedi croesawu Pencampwriaethau Cangen Cymru i'r Ŵyl ers blynyddoedd lawer, rydym yn arbennig o falch o gael ein dewis fel lleoliad ar gyfer Pencampwriaethau'r DU, sy'n cael eu cynnal yng Nghymru eleni.
Dyma gyfle i weld y grefft o dyfu llysiau ar ei gorau – gallech ei galw yn gelfyddyd hyd yn oed. Dewch i weld un o draddodiadau garddwriaethol gorau Prydain, a chael ysbrydoliaeth i ddechrau tyfu yn yr ardd.
Adloniant Bloedd
Mae Bloedd yn curadu rhaglen fywiog o adloniant a phrofiadau cyfranogol unwaith eto eleni. O gerddoriaeth fyw a theatr, i faddonau sain ymlaciol a chyfleoedd i ganu ar y cyd, gallwch ddisgwyl perfformiadau yn ymddangos mewn amryw leoliadau ledled safle'r ŵyl dros y penwythnos.
Mae rhaglen adloniant yr ŵyl eleni'n archwilio sut mae afonydd Cymru wedi cysylltu cymunedau ers amser maith, wedi llunio traddodiadau bwyd, ac wedi cario straeon ar draws Cymru a thu hwnt.
Ardal Bwyd Da Caerdydd
Bydd Ardal Bwyd Da Caerdydd yn dathlu enwi Caerdydd yn un o ddinasoedd bwyd mwyaf cynaliadwy’r DU. Ymunwch â gweithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan i ddysgu am fwyd sy’n dda i bobl a’r blaned. Bydd y babell yn cynnwys gweithdai ysbrydoledig, arddangosiadau, sgyrsiau a gweithgareddau yn dathlu bwyd lleol.
Ewch i’r rhaglen lawn am ragor o wybodaeth.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language / BSL) ar gael yn y digwyddiad eto eleni.
Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod.
Bydd rhai gweithgareddau’n cael eu harwain gan hwyluswyr byddar – gan gynnwys amser stori a gweithdai crefft.
Bydd yr athro Iaith Arwyddion Prydain, Ben Cullen, yn arwain sesiynau byr, hwyliog a rhyngweithiol i bobl o bob oed sydd eisiau dysgu rhywfaint o Iaith Arwyddion Prydain. Bydd y sesiynau hyn yn rhoi cyflwyniad croesawgar i Iaith Arwyddion Prydain ac yn annog mwy o bobl i gysylltu â diwylliant a chyfathrebu'r Byddar.