Delweddau Diwydiant
Y ST. HELENA yn cyrraedd Doc y Frenhines Alexandra, Caerdydd
BRENNAN, John
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Dyddiad: 1991
Cyfrwng: pen ac inc gyda chreon ar bapur
Maint: 210 x 297 mm
Derbyniwyd: 1991; Rhodd
Rhif Derbynoli: 91.128I
Pan benderfynodd gwasanaeth enwog yr Union Castle Line roi’r gorau i hwylio i Dde Affrica ym 1977, roedd angen gwasanaeth hwylio i ynys St. Helenayn Ne’r Iwerydd o hyd. Daeth cwmni Curnow Shipping o Porthleven, Cernyw, i’r adwy gan sefydlu gwasanaeth olynol ym 1978. Ym 1990, dechreuodd y cwmni ddefnyddio llong newydd, yr ail St Helena, o borthladd Caerdydd. Fe’i hadeiladwyd yn Aberdeen ym 1990, ac mae’r llun hwn yn ei dangos yn cyrraedd Caerdydd gyda fflyd o gychod tynnu.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.