Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Dyddiad: circa 1908
Cyfrwng: cyfryngau cymysg
Derbyniwyd: 2003; Rhodd
Rhif Derbynoli: 2003.183/1 (1)
Yn 2003 derbyniodd yr Amgueddfa rodd oddi wrth Orsaf Achub Glofeydd Dinas, sef offer anadlu Draeger a gynlluniwyd yn yr Almaen. Dechreuwyd defnyddio’r offer tua 1904 a chafodd ei ddefnyddio mewn nifer o drychinebau mwyngloddio yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd yr offer mor boblogaidd fel y daeth gweithwyr achub ym mhyllau glo’r Unol Daleithiau i gael eu galw’n 'ddynion Draeger'. Mae’n debyg mai enghraifft o fodel 1908/09 yw’r un sydd gennym ni yn yr Amgueddfa a chafodd ei ddefnyddio yn ôl pob tebyg yn ystod tanchwa Senghennydd gan mai dyma gynllun yr offer roedd dynion achub yr oes yn ei wisgo wrth geisio achub y glowyr yno. Er gwaethaf llwyddiant y Draeger, cafodd ei ddisodli gan gyfarpar Proto a wnaed ym Mhrydain yn ystod y cyfnod hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf.