Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, wrth galon y brifddinas, yw’r lleoliad perffaith i gynnal eich digwyddiad. Beth am estyn croeso i’ch gwesteion gyda chefndir o rai o gasgliadau celf gorau Ewrop, neu am noson o giniawa dan gromen eiconig ein Neuadd Fawreddog. O gynadleddau i 300 o bobl i gyfarfodydd mwy agos atoch neu ddiwrnodau tîm, mae ein cyfleusterau modern yn cynnig profiad bythgofiadwy wedi’i amgylchynu gan drysorau Cymru.
Mae ein tîm llogi lleoliad profiadol ac ymroddedig yma i weithio gyda chi a sicrhau’r ateb perffaith i chi a’ch gwesteion.
Edrychwch beth sydd gan leoliadau unigryw Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i’w gynnig isod a chysylltwch â ni i ddechrau cynllunio eich digwyddiad. Edrychwn ymlaen at estyn croeso cynnes i chi i’r Amgueddfa.
Am ein bod yn elusen gofrestredig, bydd pob digwyddiad a gynhelir gennych gyda ni yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru’n perthyn i bawb a’i bod yma i bawb ei defnyddio, gan gynnwys ein holl waith arddangos, cymunedol ac addysgol.