Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn hygyrch i’n hymwelwyr er mwyn sicrhau bod y nifer ehangaf o bobl yn gallu mwynhau ein hamgueddfa, ein casgliadau a’n harddangosfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleusterau hygyrch a’r adnoddau ar draws y safle isod.

Mae mapiau o’r Amgueddfa ar gael wrth y Dderbynfa yn y brif neuadd. Gallwch chi lawrlwytho map cyn eich ymweliad.

Mae’r Amgueddfa am ddim i bawb. Efallai bydd tâl yn cael ei godi am rai arddangosfeydd a gweithgareddau. Gallwch chi archebu tocynnau wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ein gwefan

Rydyn ni’n falch o fod yr amgueddfa gyntaf i ddod yn aelod o’r cynllun Mynediad Cenedlaethol, sef Hynt. P’un a ydych chi’n unigolyn neu’n sefydliad, gallwch chi gael tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion ar gyfer rhai o’n digwyddiadau a’n harddangosfeydd.

Eisiau cofrestru?

Menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi'i rheoli gan Creu Cymru, mewn partneriaeth â Diverse Cymru yw Hynt; Ewch i wefan Hynt i gael gwybod sut i ymaelodi -https://www.hynt.co.uk/cy/ymunwch/dod-yn-aelod-o-hynt/ 

Oes cerdyn Hynt gennych chi yn barod?

Gallwch chi archebu tocynnau gyda'ch cerdyn Hynt yn y ffyrdd canlynol:

Wyneb yn wyneb ym mhob un o'n safleoedd: bydd ein Cynorthwywyr Amgueddfa cyfeillgar wrth y Dderbynfa yn hapus i'ch helpu.

Ar-lein: Ychwanegwch Rif eich Cerdyn Hynt at eich cyfrif drwy glicio ar y ddolen hon. Nodwch, gall hyn gymryd hyd at 24 awr i'w brosesu.

Pan fydd eich cyfrif wedi diweddaru gyda'ch manylion Hynt, mewngofnodwch i'ch cyfrif a gallwch archebu eich tocynnau fel arfer. Bydd tocynnau Hynt yn ymddangos wrth ddewis tocynnau. Yr oll sydd angen i chi wneud yw dangos eich Cerdyn Hynt yn y digwyddiad, a dyna ni!

*Sylwer – byddwch chi ond yn gallu ychwanegu’r nifer benodol o docynnau Hynt at eich archeb a osodwyd yn ystod y broses ymgeisio.

Er mwyn eich helpu chi i gynllunio eich ymweliad, cymerwch gip ar ein stori weledol. Mae’n cynnwys ffotograffau a gwybodaeth i ddangos beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch ymweliad â’r Amgueddfa.

Mynedfa ac allanfa’r Amgueddfa

Mae prif fynedfa ac allanfa’r Amgueddfa ar Heol Gerddi’r Orsedd. Mae 16 o risiau gyda chanllawiau, neu mae llwybr hygyrch o flaen yr adeilad. Byddwch chi ar lefel dau pan fyddwch chi’n cyrraedd yr Amgueddfa.

Parcio hygyrch

Mae pedwar lle parcio hygyrch ar gael yng nghefn y Maes Parcio Ymwelwyr, oddi ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio am ddim i ddeiliaid bathodyn glas. Defnyddiwch yr intercom wrth allanfa’r maes parcio i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae parcio hygyrch ar gael o flaen yr Amgueddfa hefyd, ar Heol Gerddi’r Orsedd. 

Adegau Tawel 

Gall yr Amgueddfa fod yn brysur iawn ac yn swnllyd weithiau. Mae gennym ni nifer gyfyngedig o amddiffynwyr clustiau ar gyfer oedolion a phlant. Os hoffech chi gael benthyg y rhain yn ystod eich ymweliad, gofynnwch wrth y Dderbynfa.

Yr adeg dawelaf i ymweld â’r Amgueddfa yw 3pm ymlaen, fel arfer. Mae ein holl orielau yn cau am 4.45pm ac mae’r Amgueddfa yn cau am 5pm.

Ardaloedd tawel

Ein horielau celf yw’r ardaloedd tawelaf yn yr Amgueddfa.

Goleuadau a thymheredd

Mae’r goleuadau yn newid drwy rai o Orielau’r Gwyddorau Naturiol, gan amrywio o lefelau golau isel i sbotoleuadau cryf, ond mae’r holl lwybrau cerdded, paneli testun ac arddangosiadau wedi’u goleuo’n glir.

Mae’r tymheredd yn amrywio wrth i chi symud trwy’r Amgueddfa ac mae rhai orielau a gofodau’n eithaf oer. Efallai hoffech chi ddod â dilledyn ychwanegol gyda chi i’w wisgo yn yr ardaloedd hyn.

Llawr anwastad

Sylwch fod lefel y llawr yn mynd i fyny ac i lawr yn Oriel Esblygiad Cymru drwyddi draw. Mae hyn yn fwriadol. Mae’r pantiau yn y llawr yn cynrychioli’r adegau pan oedd Cymru o dan y môr, tra bod y rhannau uwch yn cynrychioli’r adegau pan oedd Cymru uwchben lefel y môr. Mae llawr synhwyrus mewn rhai rhannau o’r oriel hon. Byddwch yn ofalus yn yr ardaloedd hyn. 

Benthyg cadair olwyn

Mae pedair cadair olwyn a chwe ffon eistedd ar gael i’w benthyg am ddim ar gyfer eich ymweliad. Mae’r rhain ar gael i’w casglu o’r Dderbynfa ar gais a’u dychwelyd yno, ac maen nhw’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Yn anffodus, allwn ni ddim darparu cymorth staff o amgylch yr Amgueddfa ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Allwch chi ddim mynd â chadeiriau olwyn allan o’r Amgueddfa.

Sgwteri symudedd

Rydyn ni’n croesawu sgwteri symudedd a gallwch chi eu defnyddio yn yr Amgueddfa.

Clirio’r safle mewn argyfwng 

Mae’n annhebygol y bydd larwm yn canu yn ystod eich ymweliad. Os bydd un yn canu, peidiwch â phoeni – dilynwch unrhyw gyfarwyddiadau gan aelodau staff, a fydd yn eich tywys chi i’r allanfa ddiogel agosaf

Lifft a mynediad i’r orielau 

Mae’r rhan fwyaf o’r lifftiau yn yr Amgueddfa yn addas i gadeiriau olwyn a sgwteri symudedd ac maen nhw’n defnyddio cyhoeddiadau sain. I weld lleoliadau’r holl lifftiau, edrychwch ar ein map o’r Amgueddfa. Gallwch chi gyrraedd y rhan fwyaf o’r orielau eich hun, ond rhaid i Gynorthwy-ydd Oriel weithio lifftiau i rai orielau am resymau diogelwch. Mae arwyddion sy’n nodi ble mae pob lifft a sut mae’n gweithio. Bydd staff yr Amgueddfa wrth law i helpu.

Lefel un

Bwyty Oriel

Toiledau hygyrch

Lleoedd Newid

Ystafelloedd Cyfarfod (Archebwch y rhain o flaen llaw) 0300 111 2 333

Lefel dau – Y brif fynedfa

Siop yr Amgueddfa

Derbynfa

Oriel Esblygiad Cymru

Orielau Hanes Natur

Siop Goffi

Gofod addysg

Lefel tri

Orielau’r Gwyddorau Naturiol (yn Adain Orllewinol yr Amgueddfa yn unig)

Lefel pedwar

Orielau Celf – Celf Hanesyddol, Celf Argraffiadol a Modern a Chelf Gyfoes

Toiledau Hygyrch 

Mae toiledau hygyrch ar gael ym Mwyty Oriel ar lefel un. Mae gan yr holl doiledau hygyrch larymau cortyn tynnu. Cyfeiriwch at y map neu gofynnwch i aelod o staff.

Cyfleusterau newid cewynnau 

Mae cyfleusterau newid cewynnau ac ystafell bwydo ar y fron i’r sawl sydd eisiau preifatrwydd ar gael ym Mwyty Oriel. Mae croeso i chi fwydo ar y fron unrhyw le yn yr Amgueddfa.

Lleoedd Newid 

Yn ogystal â’n toiledau hygyrch, mae gennym ni gyfleuster Lleoedd Newid ar lefel un. Mae ein Lle Newid yn cynnwys offer codi a gwely y mae modd ei addasu. Gallwch chi gael mynediad i’r toiled trwy fenthyg allwedd Radar o’r Dderbynfa, a’i dychwelyd ar ôl ei defnyddio.

Dewch o hyd i Leoedd Newid eraill Toiledau Lleoedd Newid (changing-places.org)

Seddi

Mae rhai seddi mewn orielau penodol, arddangosfeydd arbennig, gofodau cyhoeddus, caffis a’r Bwyty. Mae’r Bwyty ar agor ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau ysgol.

Meinciau yw’r rhan fwyaf o’n seddi yn yr orielau.

Mae croeso i chi ddefnyddio ffyn cerdded neu stolion plygu â sedd, cyn belled â bod gorchuddion rwber ar y gwaelod.

Mae sawl stôl gludadwy ar gael mewn amrywiaeth o wahanol orielau. Gofynnwch i aelod o staff yn yr orielau ble ydyn nhw. Dychwelwch y stolion plygu i aelod o staff wrth adael yr orielau.

Seiniau Cyfoethog 

Byddwch chi’n clywed rhai seiniau wrth i chi fynd o amgylch oriel Esblygiad Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys dwy sgrin fawr sy’n chwarae ffilmiau gyda sain ar ddechrau llwybr yr arddangosfa. Tua hanner ffordd ar lwybr yr arddangosfa, byddwch chi’n ysgogi seiniau anifeiliaid awtomatig wrth i chi fynd heibio’r mamoth a’r udfilod. Mae’r rhain wedi’u hamlygu ar ein map o’r safle.

Cŵn gwasanaeth 

Rydyn ni’n deall y bydd angen i rai o’n hymwelwyr gael cymorth ci gwasanaeth ac rydyn ni’n falch o groesawu cŵn gwasanaeth sydd wedi’u hyfforddi’n briodol. Dylai cŵn gwasanaeth gael eu goruchwylio a’u cadw dan eich rheolaeth drwy gydol eich ymweliad, gan aros ar dennyn a gwisgo’r tabard neu’r harnais priodol, yn ddelfrydol. Gofynnwch i aelod o staff eich cyfeirio at y toiled/ardal mynd i’r toiled agosaf. Mae dŵr yfed ar gael ar gais o’r siop goffi.

Dolenni Sain

Mae dolenni sain wedi’u darparu yn oriel Esblygiad Cymru, y Dderbynfa, y siop, cownteri’r bwyty a’r siop goffi ac yn Narlithfa Reardon Smith. Mae dolen sain cludadwy ar gael i’w defnyddio yn yr ystafelloedd cyfarfod ac addysg. Mae’r holl ddolenni sain yn gweithredu ar y gosodiad ‘T’. Gosodwch eich cymorth clyw i’w actifadu.

Canllaw Print Bras

Mae canllaw print bras ar gael yn ein harddangosfa dros dro, Drych ar yr Hunlun.

Teithiau sain ddisgrifiad

Gallwn ni gynnig teithiau Sain Ddisgrifiad am ddim a chymorth tywys i ymwelwyr unigol. Gweler y dudalen hon am fanylion Teithiau Sain Ddisgrifiad (amgueddfa.cymru)

Digwyddiadau a Gwasanaethau Cyfieithu Iaith Arwyddion Prydain 

I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau â Chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain, chwiliwch ar ein tudalen Digwyddiadau.

Bydd pob digwyddiad â Chyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain yn cael ei gyflwyno gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig.

Digwyddiadau yn Narlithfa Reardon Smith

Mae Darlithfa Reardon Smith yn cynnwys platfform gwylio â chwe lle dynodedig ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Mae mynediad i’r Ddarlithfa o gefn y Maes Parcio Ymwelwyr neu drwy lwybr mynediad gwastad o Blas y Parc. Does dim mynediad uniongyrchol o’r Ddarlithfa i’r Amgueddfa.

Mynedfeydd a Mynedfa Heb Risiau

Mae gan Theatr Reardon Smith ddwy fynedfa, sef drws y Gogledd a drws y De. Mae mynedfa hygyrch, heb risiau ar gael trwy fynedfa drws y Gogledd a Drws B i’r Awditoriwm. Mae’r mynedfeydd hyn yn addas i ddefnyddwyr cadair olwyn er mwyn cyrraedd ein platfform hygyrch a phobl sydd â symudedd cyfyngedig.

Mae 5 gris o gyntedd drws y Gogledd i Ddrws A yr Awditoriwm. Gan fod y theatr yn gymesur, mae’r un peth yn wir o gyntedd drws y De i Ddrws E yr Awditoriwm.

Toiledau hygyrch

Mae toiled neillryw hygyrch yn ardal y cyntedd sy’n arwain at ddrws y De.


 

Y tu mewn i’r Awditoriwm

Mae dolen sain ar gael, sy’n trawsyrru i gymhorthion clyw yn y safle T.

Platfform hygyrch

Mae lle ar gyfer hyd at dri defnyddiwr cadair olwyn ar y platfform hygyrch, ynghyd â’u Cynorthwywyr Personol.

Mae rhwystr 83cm o uchder o flaen y platfform hygyrch.

Sylwch, pan fydd cadair olwyn wedi’i lleoli ar y platfform hygyrch, ychydig iawn o le fydd ar ôl ac ni fydd cadeiriau olwyn ychwanegol yn gallu mynd heibio y tu ôl iddi.

Os bydd defnyddiwr cadair olwyn eisiau gadael, bydd angen i’r holl unigolion eraill ar y platfform adael yr ardal dros dro i hwyluso symudiadau diogel a dirwystr.

Gwerthfawrogwn eich dealltwriaeth a’ch cydweithrediad wrth i ni weithio o fewn cyfyngiadau adeilad hanesyddol i ddarparu profiad diogel a chynhwysol i bawb.

Cynlluniau Eistedd

Pan ddarperir cynlluniau eistedd ar gyfer digwyddiadau, gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddangosir yn gywir. Fodd bynnag, fe allai cynlluniau seddau fod yn destun newidiadau tymor byr neu benodol i’r lleoliad o ganlyniad i ofynion digwyddiadau.

Bwriedir i gynlluniau seddau roi arweiniad cyffredinol yn unig, ac efallai na fyddant yn adlewyrchu’r union gynllun yn y theatr ar ddiwrnod y digwyddiad. Ni allwn warantu eu cywirdeb ym mhob sefyllfa.

Dimensiynau Seddau

Rhoddir isod rai mesuriadau bras a gymerwyd o seddau ein Prif Theatr:

  • Lled seddau: Mae ein seddau’n eithaf cul ac mae’r ffaith bod tro siarp yn yr awditoriwm yn golygu bod lled seddau’n amrywio ar draws gwahanol ardaloedd eistedd.
  • Hyd seddau: 39cm
  • Hyd breichiau seddau: 29cm
  • Uchder seddau (o dop cefn y sedd i’r sedd ei hun): 51cm
  • Sylwch nad oes modd tynnu breichiau’r seddau ymaith.
  • Fodd bynnag, gellir eistedd mewn seddau di-fraich ar ein Platfform Hygyrch. Unwaith eto, mae croeso i bob ymwelydd drafod unrhyw ofynion neu bryderon eistedd gyda’n Tîm Digwyddiadau cyn eu hymweliad trwy anfon neges e-bost at events@museumwales.ac.uk
  • Lle coesau – mae’r ffaith bod tro siarp yn yr awditoriwm yn golygu bod lle coesau’n amrywio ar draws gwahanol ardaloedd eistedd.

Grisiau at y Seddi

Dyma gipolwg ar nifer y grisiau o bob drws i bob ardal eistedd:

Ardal eistedd

Grisiau o Ddrysau A ac E     

Grisiau o Ddrysau B a D  

Grisiau o Ddrws C

Rhes A   

16 o risiau

20 o risiau

Dd/B

Rhes B 

14 o risiau 

18 o risiau

Dd/B

Rhes C  

12 o risiau

16 o risiau

Dd/B

Rhes D  

10 o risiau

14 o risiau

Dd/B

Rhes E 

8 o risiau 

12 o risiau 

Dd/B

Rhes F   

6 o risiau 

10 o risiau

Dd/B

Rhes G  

4 o risiau 

8 o risiau

8 o risiau 

Rhes J   

Mynedfa heb risiau

4 o risiau 

4 o risiau 

Rhes K  

Dd/B         

2 o risiau

2 o risiau

Row L   

Drws E dim ond 4 o risiau     

Mynedfa heb risiau 

Mynedfa heb risiau

Platfform Hygyrch

Drws A dim ond 4 o risiau      

Dd/B

Dd/B

Rhes M 

6 o risiau              

2 o risiau 

2 o risiau 

Golygfeydd Cyfyngedig

Mae ein theatr wedi cael ei dylunio mewn modd ystyriol heb bileri na physt er mwyn lleihau rhwystrau gweledol gymaint â phosibl. Fodd bynnag, yn dibynnu ar ongl rhai seddau, fe allai rhai golygfeydd fod yn rhannol gyfyngedig. Nid yw hyn yn berthnasol i bob digwyddiad ac fe allai amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad penodol a’r llwyfannu.

Cymorth

Os bydd arnoch angen cymorth, siaradwch ag aelod o staff neu cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn sicrhau bod eich ymweliad mor ddidrafferth a chyfforddus â phosibl.