Datganiadau i'r Wasg
72 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 8 9 10 11 12
Ai chi yw bwytäwr mwyaf ffyslyd Casnewydd?
Yn y Sioe Filwrol Rufeinig a gynhelir yng Nghaerllion ar 7 ac 8 Gorffennaf 2007, bydd y cogydd Sally Granger yn derbyn yr her o fwydo bwytäwr mwyaf ffyslyd Casnewydd a’r ardal. Mae’r Amgueddfa Lleng Rhufeinig yn chwilio am wirfoddolwr sy’n barod i drio ryseitiau sy’n hanu o gyfnod y Rhufeiniaid – prydiau y mae Sally Granger yn gobeithio a fydd newid eu dirnadaeth o fwyd.
Llwybr Newydd i Domen Lo Coity - O domen rwbel pwll glo i warchodfa natur
Cafodd llwybr newydd ei lansio ddydd Iau, 14 Mehefin 2007 a fydd yn galluogi ymwelwyr i agosáu at natur ar Domen Coity, wrth ymyl Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, sy'n raddol yn cael ei gytrefu gan blanhigion ac anifeiliaid arbennig a phrin.
Stori Newydd am Gelfi Cymreig
Yn ganlyniad 16 mlynedd o ymchwil gan yr awdur Richard Bebb, cafodd ‘Welsh Furniture 1250 – 1950, A Cultural History of Craftsmanship and Design’ – a gyhoeddwyd gan Saer Books a chynhyrchwyd gyda chymorth Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ei lansio’n swyddogol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar Ddydd Gwener, 15 Mehefin 2007.
Seiniau newydd yn Sain Ffagan
Cafodd cloch newydd a grëwyd yn arbennig ar gyfer Eglwys Teilo Sant - a symudwyd fesul carreg o’i chartref ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - ei chanu am y tro cyntaf heddiw (dydd Llun 4 Mehefin 2007).
Ymweliad brenhinol ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gau ddydd Mawrth 5 Mehefin 2007 oherwydd achlysur a gynhelir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ei Mawrhydi'r Frenhines. Am resymau diogelwch, ni fydd modd agor yr Amgueddfa i'r cyhoedd.
Haf Hwylus yn Sain Ffagan
Y ffigyrau ymwelwyr uchaf erioed ac aelodau newydd o staff - mae'n argoeli'n dda ar gyfer yr haf yn yr Amgueddfa. Nid yw'r newid sydyn yn y tywydd wedi diflasu staff Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru - atyniad gorau Cymru - a brofodd ddechrau llwyddiannus i'r flwyddyn. Gall Sain Ffagan edrych ymlaen yn hyderus at yr haf ar ôl torri'r record am niferoedd ymwelwyr a dechrau ar gynlluniau newydd sbon.