Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

39 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7

Arddangosfa newydd yn dathlu 100 mlynedd o’r BBC yng Nghymru yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

8 Rhagfyr 2022

I nodi canmlwyddiant y BBC, bydd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, BBC 100 yng Nghymru, yn adrodd hanes y gorfforaeth yng Nghymru. O’r darllediadau cyntaf yn y 1920au i’n hoes ddigidol ni heddiw, mae’r arddangosfa yn archwilio sut mae Cymru wedi cyfrannu at greu a datblygu’r BBC, a sut mae’r BBC wedi dylanwadu ar Gymru.

Darganfod ffosilau newydd yng Nghanolbarth Cymru – o bosib y rhywogaethau cyntaf o'u bath yn Ewrop

16 Tachwedd 2022

Mae’n bosib taw dau ffosil a ganfuwyd ger Llandrindod yw'r cyntaf o'u bath i gael eu canfod tu allan i Ogledd America. Cafodd y ffosilau eu canfod gan ymchwilwyr Amgueddfa Cymru mewn creigiau a ddyddodwyd dan y môr dros 460 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan oedd canolbarth Cymru dan ddŵr. Credir taw dyma'r rhywogaeth opabinid cyntaf i gael ei ganfod yn Ewrop.

Arddangosfa newydd yn Sain Ffagan yn dathlu cefnogwyr pêl-droed Cymru

15 Tachwedd 2022

I ddathlu’r ffaith fod Cymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA, bydd arddangosfa newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn rhoi sylw i rai o bobl a chymunedau’r Wal Goch. 

Arddangosiad newydd i nodi trychineb Aberfan yn Sain Ffagan

19 Hydref 2022

Mae casgliad o eitemau sy’n adrodd hanes trychineb Aberfan nawr i’w gweld yn oriel Cymru... yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. 

Brenhinoedd Tanddaearol

5 Hydref 2022

 Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 5 Hydref, mae “Brenhinoedd Tanddaearol” yn arddangosfa hynod ddiddorol sy’n cynnwys glowyr sydd wedi goroesi a’u perthnasau y tynnwyd llun ohonynt gan ddefnyddio proses o’r enw ffotogrametreg, sy’n trosi delweddau dau ddimensiwn yn bortreadau tri dimensiwn.

 

Mae’r canlyniadau yn bortreadau digidol 3D unigryw ynghyd â straeon yn eu lleisiau eu hunain o’r glowyr a’u perthnasau. 

Dathlu Hanes Pobl Dduon Cymru yn Sain Ffagan

22 Medi 2022

Bydd dathliadau lansio Hanes Pobl Dduon Cymru yn cael eu cynnal  yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar ddydd Sadwrn 1 Hydref 2022 rhwng 11.15am a 5pm. 

 

I ddathlu'r achlysur, bydd Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Race Council Cymru yn cynnal diwrnod o ddigwyddiadau ar y thema 'Bobl Ifanc, Nawr yw'r Amser!'