Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

57 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10

Mwyn-hau arddangosfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

16 Rhagfyr 2010

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, prin y clywyd am fenywod oedd yn casglu mwynau. Wnaeth statws cymdeithasol menywod y cyfnod ddim atal y Fonesig Henrietta Antonia, Iarlles Powis fodd bynnag, ac adeiladodd gasgliad gwych o fwynau o bedwar ban byd pan taw dynion yn unig a ymddiddorai yn y maes. Caiff y casgliad mwynau gwych yma ei arddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 14 Rhagfyr i 31 Mawrth.

Croesawu Nadolig gwyrdd ar y Glannau

23 Tachwedd 2010

Mae’r Nadolig yn prysur nesau ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn troi’n wyrdd i ddathlu’r ?yl.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru: ymateb gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru

19 Tachwedd 2010

Ymatebodd Amgueddfa Cymru heddiw (Gwener, 19 Tachwedd 2010) i’r newyddion y bydd y sefydliad yn dioddef toriad yn y Grant Cymorth Refeniw dros y tair blynedd nesaf. Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

Drama bwerus yn cael ei llwyfannu yn y Glannau

16 Tachwedd 2010

Caiff drama bwerus a hudol yn archwilio gwreiddiau, digwyddiadau a safbwyntiau gwahanol Terfysgoedd Tonypandy ym 1910 ei pherfformio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn, Sul 21 Tachwedd.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn addo penwythnos llawn hwyl yr ?yl

11 Tachwedd 2010

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn croesawu’r Nadolig y penwythnos hwn (13 a 14 Tach) gydag amrywiaeth o grefftau, cardiau a chreadigaethau disglair Nadoligaidd.