Datganiadau i'r Wasg
Arddangos cerfiadau Rhufeinig am y tro cyntaf – portreadau cynharaf Cymru o bosibl
Bydd dau banel carreg cerfiedig Rhufeinig, portreadau cynharaf Cymru o bosibl, yn cael eu dangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Cymru.
Amgueddfa Cymru yn sicrhau £1.6m i arwain hwb DiSSCo UK | Gorllewin
Amgueddfa yn rhan o broject mawr i ddatgloi dros 300 mlynedd o ddata bioamrywiaeth
Gwenwch, mai'n ddydd GWENer. Mis i ddathlu pen-blwydd Gwen John yn 150 oed
Dros wythnosau olaf arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd mae Amgueddfa Cymru yn cynnig tocynnau am ddim i unrhyw un â'r enw Gwen!
Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad o wrthrychau diwylliant cerddoriaeth amgen Cymru
Mae un o eiconau cerddorol Cymru, Rhys Mwyn, wedi rhoi nifer o wrthrychau i Amgueddfa Cymru, gan gyfoethogi'r casgliad bywyd diwylliannol.
Arddangosfa ffotograffiaeth newydd gan Clémentine Schneidermann a Charlotte James yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bydd Ffasiwn yn cyflwyno 56 darn o waith gan y ffotograffydd Ffrengig Clémentine Schneidermann a'r cyfarwyddwr creadigol o Ferthyr, Charlotte James ac yn dathlu deng mlynedd o It's Called Ffasiwn, sef project ffotograffiaeth, ffasiwn a chreadigrwydd â'i wreiddiau yn y gymuned.