Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

70 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Ei bywyd trwy gelf: Casgliad Winifred Coombe Tennant ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

5 Awst 2008

Bu’n gefnogwr brwd o Lloyd George, roedd yn aelod o’r orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwisgai’r wisg draddodiadol Gymreig bob dydd a heddiw fe’i hadnabyddir fel un o noddwyr celf pwysicaf yr 20fed ganrif. Agorwyd arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 26 Gorffennaf 2008 sy’n archwilio bywyd Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956) a fu’n ffrindiau gydag artistiaid ac yn casglu eu gweithiau celf, gyda’r gobaith o greu casgliad gelf cenedlaethol.

Haf o Gariad yn Amgueddfa'r Glannau

28 Gorffennaf 2008

Os ydych chi'n chwilio am ramant yr haf yma, yna beth am alw draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe am noson Cwrdd a Chymysgu arbennig ar gyfer pobl 35 i 55 oed?

Galw am fynegiadau o ddiddordeb: Celf Cymru Gyfan

22 Gorffennaf 2008

Mae Amgueddfa Cymru wedi sicrhau tair blynedd arall o gyllid gan Ymddiriedolaeth Esmée Fairbairn i ddatblygu Celf Cymru Gyfan, y bartneriaeth celfyddyd weledol a gafodd ei phrofi rhwng 2005 a 2008. Yn achos y cynllun gwreiddiol gweithiodd yr amgueddfa gyda phum canolfan celf ranbarthol sefydlog, pob un ohonynt â chylch gwaith gwahanol, yn cynnwys sefydliad wedi'i selio ar gasgliadau, dau ofod arbennig ar gyfer celf gyfoes, canolfan celf a chrefft gymwysedig ac amgueddfa t? hanesyddol. Amrywiodd y projectau o arddangosiadau bach un artist, i arddangosfeydd arolwg mwy, ac roedd yn cynnwys comisiynau mawr newydd, nifer o gyfleoedd i ddatblygu artistiaid, a pherthynas gwaith â nifer o bartneriaid. Er mai nod tymor hir y cynllun yw cynyddu hygyrchedd y casgliad celf, mae Amgueddfa Cymru'n bwriadu ehangu cwmpas Celf Cymru Gyfan, yn nhermau'r canolfannau partner cymwys yn ogystal â'r projectau sy'n cael eu cyflawni.

Yn eisiau: Landrover Cyfres 2

21 Gorffennaf 2008

Mae 50 mlynedd bellach ers sefydlu archif sain yn Amgueddfa Werin Cymru - hanner canrif ers i staff Sain Ffagan deithio ledled y wlad mewn Landrover a charafán i gofnodi hanesion ac arferion ein cyndeidiau.