Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

37 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7

Celf bop yn mynd ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd nôl i'r chwedegau

11 Mawrth 2013

Gyda’r gwanwyn, daw tair arddangosfa celf gyfoes newydd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae arddangosfa Pop a Haniaethol yn cynnwys gweithiau nifer o artistiaid pwysig o gasgliad celf fodern Amgueddfa Cymru. Yn ogystal â hyn bydd comisiwn gosodwaith ffotograffiaeth gan yr artist Holly Davey a bydd Tim Davies yn cyflwyno’i waith ffilm o Biennale Fenis 2011.

Taclo Rygbi ar y Glannau

1 Mawrth 2013

Bydd naws y rygbi ar ei anterth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau dros y penwythnos (dydd Sul 3 Mawrth) gydag ymweliad gan hyfforddwyr URC a chyn gapten rygbi Cymru Steve Fenwick.

Arddangosfa Amgueddfa Cymru yn Tsieina yn ddathliad o'n gwlad

27 Chwefror 2013

Fel rhan o ddathliadau wythnos Cymru yn Chongqing 2013, bydd arddangosfa newydd sbon ar hanes Cymru, Wales, Land of the Red Dragon, a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru, yn agor yn Amgueddfa Three Gorges yn Chongqing ar 4 Mawrth ac ar agor tan 30 Mehefin 2013.

Mantell Aur yr Wyddgrug ar daith i Gymru'r haf hwn

22 Chwefror 2013

Bydd Mantell Aur yr Wyddgrug yn mynd ar daith o’r Amgueddfa Brydeinig yr haf hwn ac yn cael ei harddangos yng Nghymru. Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, dyma fydd y trydydd tro i’r fantell gael ei harddangos yng Nghaerdydd a bydd yn cael ei harddangos hefyd yn Wrecsam, nepell o’r man ble’i cafodd ei darganfod. Bydd y fantell i’w gweld am ddim yn y ddwy amgueddfa fel rhan o gynllun Spotlight Tours a drefnir gan Gynllun Partneriaeth y DU yr Amgueddfa Brydeinig.

Amgueddfa Cymru yn cynnig strwythur newydd

24 Ionawr 2013

Ar ddydd Llun 21 Ionawr 2013 cychwynnodd Amgueddfa Cymru ar gyfnod o ymgynghori â’i staff a phartneriaid, gan gynnwys Undebau Llafur, parthed strwythur arfaethedig newydd y sefydliad.

Amgueddfa Rufeinig yn dod wyneb yn wyneb â'r gorffennol

18 Ionawr 2013

Un o arddangosfeydd mwyaf poblogaidd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yw'r arch garreg sy'n dal sgerbwd g?r Rhufeinig. Am y tro cyntaf erioed, mae’r amgueddfa wedi creu portread o wyneb y sgerbwd wedi i gadwraethwyr Amgueddfa Cymru gydweithio ar waith ymchwil sy’n cynnwys dadansoddi isotop a modelu 3D.