Datganiadau i'r Wasg
82 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13
Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol mewn arddangosfa newydd
Mae project tair blynedd o ddogfennu, curadu a digideiddio detholiad o ffotograffau hanesyddol o gasgliadau cenedlaethol Cymru wedi esgor ar arddangosfa newydd Dadorchuddio Ffotograffiaeth Hanesyddol, sy’n agor ar ddydd Sadwrn 24 Ionawr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Roedd y project Delweddau Naturiol yn bosibl diolch i rodd o £600,000 gan Sefydliad Esmée Fairbairn yn 2011 a’r bwriad oedd digideiddio delweddau o bob math o ddisgyblaethau – daeareg, botaneg, hanes diwydiannol a chelf. Bydd hyd at 10,000 o luniau wedi cael eu digideiddio erbyn diwedd y project ym mis Ebrill 2015 a bydd detholiad o’r lluniau hyn yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa newydd.
Theaster Gates sy'n ennill Gwobr Artes Mundi 6
Mae’r artist cyfoes Theaster Gates o Chicago wedi ei ddewis o restr fer yn cynnwys 10 o brif artistiaid y byd fel enillydd prif wobr gelf gyfoes ryngwladol y DU, Artes Mundi 6.
Diwydiant Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf yw canolbwynt Gwaith a Buddugoliaeth
 hithau’n gan mlynedd er dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanesion y dynion a’r gwragedd fu’n gweithio yn y diwydiannau hanfodol, a’u cyfraniad at yr ymdrech ryfel.
Sadwrn Sêr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi digwyddiadau poblogaidd yn y gorffennol, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd unwaith eto yn cynnal diwrnod llawn hwyl o weithgareddau ac arddangosiadau arallfydol AM DDIM i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 10 Ionawr, 10am-4pm.