Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

82 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14

Rhyfeddwch yn Amgueddfa Wlân Cymru

23 Hydref 2015

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn paratoi i ddathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd.

Dirprwy Weinidog yn helpu i ddathlu’r 10

14 Hydref 2015

Daeth y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau heddiw (dydd Mercher 14 Hydref) i ddathlu pen-blwydd yr Amgueddfa yn 10 oed.

Pen-blwydd Hapus i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 10 oed!

13 Hydref 2015

Ar ddydd Sadwrn 17 Hydref, a dros ddwy filiwn a hanner o ymwelwyr yn ddiweddarach, bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn dathlu’i phen-blwydd yn 10 oed.

Sgwrs gyda’r awdur Iain Sinclair yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

9 Hydref 2015

Ar gyfer ei lyfr newydd, dychwelyd i fro ei febyd yng Ngŵyr wna Iain Sinclair, awdur Downriver, Lights Out for the Territory a Rodinsky’s Room. Tra’n ysgrifennu Black Apples of Gower fe ddarganfu’r ardal o’r newydd drwy farddoniaeth Dylan Thomas a Vernon Watkins, a chelf Ceri Richards. Ym mis Hydref bydd yr awdur o Gymru yn trafod ei lyfr mewn digwyddiad am ddim yn Narlithfa Reardon Smith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Llun 19 Hydref am 6.30pm (drysau’n agor am 6pm).

Arddangosfa o gasgliad Amgueddfa Cymru o ddarluniau John Piper yn agor yng ngogledd Cymru

8 Hydref 2015

Bydd casgliad hynod o olygfeydd o Eryri gan yr artist John Piper, un o artistiaid mwyaf amryddawn Prydain yn yr 20fed ganrif, yn teithio i ogledd Cymru am y tro cyntaf. Bydd yr arddangosfa, Mynyddoedd Cymru, sy’n cynnwys tirluniau gwych o’r gogledd, i’w gweld yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog ger Pwllheli, o 11 Hydref tan 13 Rhagfyr 2015. Bydd y casgliad hefyd i’w weld yn Oriel Ynys Môn y flwyddyn nesaf (13 Chwefror i 19 Mehefin 2016).

Argraffiad cyntaf prin, 200 oed o Gymru a Lloegr i’w weld yng Nghaerdydd

23 Medi 2015

Arddangos gwaith arloesol i ddathlu deucanmlwyddiant