Polisi Preifatrwydd
Polisi Preifatrwydd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Os ydych wedi archebu gweithgaredd ar ran grŵp, chi sydd yn gyfrifol am sicrhau fod pob aelod o’r grŵp wedi darllen ac yn cytuno i’r defnydd o wybodaeth amdanynt yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
1. Pam darllen hwn?
Mae data yn bwysig i’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu i chi yng nghyswllt y gweithgareddau yn ein heiddo a hefyd yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan (y “Gweithgareddau”). Mae’r polisi hwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth, a’r hyn a wnawn i’w gadw’n ddiogel.
2. Beth yw ystyr rhai geiriau
Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn (y “Polisi”) yn disgrifio sut y mae Cyngor Sir a Dinas Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW (“ni”, ac “ein”) yn casglu, storio a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi yng nghyswllt ein Gweithgareddau, gan gynnwys eich defnydd o’n gwefan (y “Safle“).
Ystyr “Cyfraith Diogelu Data” yw Deddf Diogelu Data 1998, y GDPR, a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig (Cyfarwyddeb y GE) 2003, fel y’u diwygiwyd o dro i dro, a phob cyfraith a rheoliad preifatrwydd a diogelu data perthnasol arall, yn ogystal ag unrhyw ganllawiau a/neu godau ymarfer a gyhoeddir o dro i dro gan y Comisiynydd Gwybodaeth.
At ddibenion Cyfraith Diogelu Data, yr ydym yn rheolwyr data, sy’n golygu ein bod yn rheoli prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Chyfraith Diogelu Data a’n bod yn gyfrifol am ddal eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
3. Gwybodaeth y gallwn ei gasglu amdanoch
- Enw(au) cyswllt, cyfeiriad, ebost, rhif ffôn
- Manylion cerdyn credyd/debyd a gwybodaeth gysylltiedig am daliadau
- Gwybodaeth am dalebau
- Gwybodaeth y byddwn yn ei gasglu pan fyddwch yn anfon ebost neu lythyrau atom
- Gwybodaeth am eich ymwneud â ni ar gyfryngau cymdeithasol
- Gwaith papur am iechyd, hanes meddygol a diogelwch sydd yn cynnwys gwybodaeth a rowch i ni am gyflyrau meddygol sydd gennych a chofnodion y byddwn yn eu cadw am ddamweiniau
- Gwybodaeth ddienw am ymwelwyr â’r Safle, megis o ba ardal ddaearyddol y maent yn dod, y tudalennau y maent yn ymweld â hwy, y dyfeisiadau a’r porwyr maent yn ddefnyddio
- Gwybodaeth am eich ymwneud â’n safleoedd cyfryngau cymdeithasol megis Twitter, Instagram, YouTube a Vimeo
4. Gwybodaeth am unigolion eraill
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ar ran rhywun arall, gan gynnwys pobl eraill yn eich grŵp, mae rheidrwydd arnoch i ddangos y Polisi hwn iddynt, gofyn iddynt ei ddarllen yn drwyadl a gofalu eu bod yn cydnabod ac yn cytuno i’w data personol gael ei brosesu yn unol â’r Polisi hwn.
5. Beth yw’r sail gyfreithiol i ni allu prosesu eich gwybodaeth?
Byddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r Polisi hwn yn unig dan un neu fwy o’r amgylchiadau isod:
- eich bod chi wedi rhoi cydsyniad i, er enghraifft i) eich bod yn llenwi ffurflen archebu, yn ein ffonio neu’n ebostio i roi gwybodaeth i ni fel y gallwn reoli archeb eich Gweithgareddau a ii) eich bod yn rhoi gwybodaeth i ni, gan gynnwys am eich iechyd, er mwyn i ni allu asesu a yw’n ddiogel i chi ymgymryd â’r Gweithgareddau
- lle mae angen i ni ddod i gontract gyda chi, gan gynnwys i ddarparu dyfynbrisiau i chi, darparu ein gwasanaethau, prosesu eich taliad ac ymateb i ymholiadau a wneir gennych
- i gydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol
- at ddibenion hyrwyddo ein buddiannau cyfreithlon, gan gynnwys yng nghyswllt gwella ein gwasanaethau, cyfryngau cymdeithasol, y Safle a’r Gweithgareddau
6. Sut y byddwn yn defnyddio eich Gwybodaeth
Gallwn brosesu eich gwybodaeth at y dibenion canlynol:
- i’n helpu ni i’ch adnabod chi ac unrhyw archebion am Weithgareddau a wnaethoch gyda ni
- i’ch atgoffa am eich archeb gyda ni
- i’ch hysbysu am unrhyw newidiadau i’ch archeb, cyfoesiadau i’n telerau neu newidiadau eraill i’n gwasanaethau a all effeithio arnoch
- i gysylltu â chi yng nghyswllt unrhyw ymholiad a anfonwch chi atom
- i’n galluogi i gysylltu â’r rhiant/gwarcheidwad mewn argyfwng
- i sicrhau bod triniaeth feddygol neu gymorth cyntaf a dderbyniwch yn ein cyfleusterau yn cael ei roi yn unol ag unrhyw wybodaeth feddygol a roddwch i ni
- i gadw cofnodion o ddamweiniau neu ddigwyddiadau sy’n ymwneud â Gweithgareddau
- i hwyluso datblygu cynnyrch, i redeg, cynnal a gwella ein gwasanaethau, Safle a Gweithgareddau /li>
- i fonitro sut mae ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol yn gweithio a’n galluogi i wella ei gwybodaeth a’i weithredu
- i ddadansoddi data a gesglir gan gwcis ar ein Safle a chyfryngau cymdeithasol, mewn ffordd a wnaed yn ddienw, i fwrw golwg ar ddefnydd a thueddiadau, ac i gynllunio ymgyrchoedd marchnata at y dyfodol
7. Rhannu eich gwybodaeth
At ein defnydd ni y mae’r wybodaeth a gasglwn, ac nid ydym yn ei rannu ymhellach ac eithrio am yr isod:
- gallwn ddatgelu eich gwybodaeth i ddarparwyr gwasanaeth i helpu gyda’n gweithgareddau busnes megis ein darparwyr telemateg, darparwyr gwasanaethau talu, darparwyr dosbarthu telemateg, darparwyr cynnal TG, darparwyr cynhaliaeth TG, darparwyr meddalwedd seiliedig ar y cwmwl neu wasanaethau a ddefnyddir gennym ni, cwmnïau cyfrifeg, cydymffurfio a chyfreithiol
- byddwn yn datgelu eich data i asiantaethau gorfodi’r gyfraith os mynnir hynny gan y gyfraith, gorchymyn llys neu ein rheoleiddwyr, neu os bydd angen gwneud hyn i sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol, gan gynnwys os byddwn yn amau twyll neu ymgais i dwyllo
8. Cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
Yr ydym wedi ymrwymo i amddiffyn eich gwybodaeth y byddwn yn gasglu ac i gadw’r wybodaeth honno yn ddiogel a chyfrinachol. Yn unol â hynny, byddwn yn cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i weithwyr a rhai trydydd partïon (gweler uchod) sydd angen ei brosesu yn unol â’r Polisi hwn.
Byddwn yn defnyddio camau diogelu technegol a sefydliadol corfforol, electronig a gweithdrefnol yn unol ag arferion da y diwydiant i ddiogelu eich gwybodaeth a gesglir rhag prosesu heb awdurdod neu anghyfreithlon a rhag colled, difrod, dinistr, newid neu ddatgelu damweiniol.
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn unig cyhyd ag y mae angen i ni ei gadw, gan gynnwys i gydymffurfio â’n hymrwymiadau cyfreithiol a rheolaethol.
9. Cadw eich data
Ni fyddwn yn cadw eich data personol yn hwy na’r angen.
Gall gofynion rheoleiddiol a chyfreithiol fynnu ein bod yn cadw data am gyfnod hwy. Pan na fydd angen i ni bellach ddal eich data, caiff ei wneud yn ddienw a/neu ei ddileu.
10. Marchnata
Ni fyddwn yn cysylltu â chi yng nghyswllt marchnata trwy’r post, dros y teliffon neu ebost.
Pan fyddwch yn ymateb i un o’n hysbysebion neu bostiadau cyfryngau cymdeithasol trwy glicio ar ddolen sy’n eich dwyn at ein Safle, byddwn yn olrhain y gweithgaredd hwnnw o gwci neu dag arbennig y mae’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ddefnyddio ac yn adrodd amdano i’n herfyn dadansoddeg.
Gall y Safle gynnwys dolenni at wefannau neu apiau ein partneriaid neu drydydd partïon. Sylwch, os dilynwch unrhyw rai o’r dolenni hyn, y bydd gan y gwefannau, apiau a’r gwasanaethau a ddarperir drwyddynt eu polisïau preifatrwydd a thelerau defnyddio eu hunain. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am eu polisïau preifatrwydd a thelerau defnyddio, nac am gasglu a defnyddio unrhyw ddata personol a gesglir trwy’r gwefannau, apiau neu’r gwasanaethau hyn. Bydd angen i chi wneud yn sicr y byddwch yn adolygu’r polisïau preifatrwydd a thelerau defnyddio perthnasol cyn darparu unrhyw ddata personol na defnyddio’r gwefannau, apiau a’r gwasanaethau hyn.
11. Eich hawliau
Mae gennych yr hawliau isod yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Sylwch y gall rhai o’r hawliau hyn fod yn gymwys dan rai amgylchiadau yn unig:
- yr hawl i gael copi o’r data personol a gasglwyd gennym amdanoch, ac i drosglwyddo’r cyfryw gopi i reolwr data arall;
- yr hawl i gyfoesi neu newid y data personol a gasglwyd gennym amdanoch os yw’n anghywir neu’n anghyflawn;
- yr hawl i ddileu, neu gyfyngu prosesu, y data personol a gasglwyd gennym amdanoch;
- yr hawl i wrthwynebu prosesu’r data personol a gasglwyd gennym amdanoch, gan gynnwys yng nghyswllt unrhyw ddata a broseswyd at ddibenion marchnata uniongyrchol;
- yr hawl i dynnu’n ôl unrhyw gydsyniad a roddwyd gennych yng nghyswllt prosesu eich data personol gennym ni, ac;
- yr hawl i wneud cŵyn i SCG (www.ico.org.uk).
I arfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r wybodaeth gyswllt a nodwyd uchod yn adran 1. Petaech am newid eich data personol gallwch wneud hynny hefyd trwy ein Safle.
12. Newidiadau i’r Polisi hwn
Gallwn newid y Polisi hwn o bryd i’w gilydd. Dylech fwrw golwg ar y Polisi hwn yn rheolaidd er mwyn gwneud yn sicr eich bod yn ymwybodol o’r fersiwn ddiweddaraf fydd yn gymwys bob tro y defnyddiwch y Safle.
13. Dolenni i wefannau eraill
Gall ein Safle gynnwys dolenni i wefannau eraill. Mae’r Polisi hwn yn gymwys i’n Safle ni yn unig. Os byddwch yn cyrchu dolenni i wefannau eraill, bydd unrhyw wybodaeth a roddwch iddynt yn dod dan polisïau preifatrwydd y gwefannau eraill hynny.
14. Manylion Cyswllt
Heb fod yn siŵr am rywbeth? Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn, cysylltwch â ni ar dataprotection@cardiff.gov.uk
Gallwch hefyd gysylltu â ni yng Nghyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.
Os yw’n fater brys, gallwch hefyd gysylltu â’n swyddog diogelu data yn uniongyrchol ar 02920 872 480. Mae ein swyddog diogelu data yn sicrhau y byddwn yn prosesu data personol yn unol â’r gyfraith gymwys.