Rheolau, Rheoliadau ac Ymddygiad
Pwysig
Os nad ydych yn siŵr a all aelod o’ch grŵp gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cofiwch holi aelod o’r staff cyn i’ch grŵp gymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan.
- Mae gweithgareddau CoedLan yn heriol, ac y mae risg o anaf. I leihau’r risg hon, dylech sicrhau eich bod yn rhesymol iach a ffit.
- Rhaid i chi wrando ar gyfarwyddiadau eich hyfforddwr, a’u dilyn.
- Rhaid i chi ddefnyddio’r cyfarpar diogelwch a ddarperir gennym yn unol â chyfarwyddiadau eich hyfforddwr.
- Rhaid i chi fod naill ai dros 130cm o daldra neu rhaid i chi fod rhwng 110cm a 130cm o daldra a chael cymorth yn ystod eich gweithgareddau Coedlan gan rywun talach (sydd dros 130cm o daldra ac yn 12 oed neu hŷn)
- Rhaid i chi bwyso llai na 18 stôn (115kg).
- Tra byddwch yn cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan, ni ddylech wneud dim (na pheidio gwneud unrhyw beth) a all achosi difrod neu golled i’n heiddo, i’r cyfleusterau neu i gyfranogwyr eraill ac ni ddylech beri niwsans, annifyrrwch, aflonyddwch, anghyfleustra neu anaf i neb arall.
- Rhaid i chi ddilyn pob hysbysiad, cyfarwyddyd a rhybudd a gyhoeddir ar y safle neu a gyfleir i chi gan gynrychiolwyr DGRhC.
- Ni chaniateir i neb sydd, ym marn hyfforddwr, dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol gymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan.
- Rhaid i bob plentyn dan 130cm fod yng nghwmni oedolyn fydd yn aros ar safle CoedLan tra bydd y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan (cymhareb o 1 oedolyn i 2 blentyn; oedolyn yw rhywun 18 oed neu hŷn).
- Bydd angen i bawb dan 18 oed (‘Rhai dan 18’) fod â Ffurflen Cydsyniad Meddygol a Datganiad Diogelwch a Risg (y Datganiad) wedi’i llofnodi gan riant neu warcheidwad cyfreithlon priodol cyn cael cymryd rhan yng ngweithgareddau CoedLan.
- Rhaid clymu gwallt yn ôl a rhoi eitemau rhydd (h.y., llinynnau) mewn dillad neu eu tynnu.
- Rhaid tynnu pob gemwaith, a gwagio pocedi (rhaid tapio dros fodrwyau nad oes modd eu tynnu er mwyn lleihau’r risg cysylltiedig).
- Dim ond Hyfforddwyr gaiff addasu cyfarpar diogelwch wedi ei ffitio.
- Ni ddylid cael mwy nac UN unigolyn ar bob elfen a DAU ar bob llwyfan ar unrhyw adeg.
- Rhaid i’r Wifren Zip a’r rhwyd lanio fod yn glir o unrhyw ddefnyddwyr eraill cyn gadael y llwyfan cychwyn
- Rhaid i chi ddal lanyards ar Wifrau Zip.
- Symudwch mewn un cyfeiriad yn unig ar hyd y cwrs.