Digwyddiad:CoedLan – Cwrs Rhaffau Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Dringwch, neidiwch, camwch a siglwch eich ffordd drwy’r coed fry uwchben adeiladau Sain Ffagan, cyn cymryd y wifren wib yn ôl i dir cadarn. 

Taclwch 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys y boncyff balans, y bont gam, y rhwydi cargo a’r wifren wib.

Mae'r cwrs yn costio £15 y pen am un daith lawn o gwmpas y cwrs, sy'n cynnwys gwifren wib 50m i orffen. Gallwch brynu eich tocynnau o flaen llaw, neu o'r ddesg yn y prif adeilad. 

Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra, a dros 6 oed, i gymryd rhan. Rhaid i blant rhwng 110cm a 130cm fod yng nghwmni unigolyn dros 130cm a dros 12 oed. Y pwysau trymaf a ganiateir yw 18 stôn.

Dylech wisgo dillad sy'n addas i'r tywydd. Esgidiau yn unig, dim sandalau, sodlau uchel, fflip-fflops nag esgidiau sy'n llithro ymlaen. Rhaid gwagio pocedi, tynnu gemwaith, a chlymu gwallt hir yn ôl.

 

Gwybodaeth

O 14 Chwefror 2026, 10.15am, 11.30am, 12.45pm, 3pm, 4.15pm
Pris £15
Addasrwydd Rhaid bod o leiaf 110cm o daldra i gymryd rhan
Bachgen ifanc ar gwrs rhaffau yn Sain Ffagan
Logo Coedlan, Cwrs raffau uchel Sain Ffagan, ysgrifennu Melyn ar gefndir gwyrdd
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
28 Chwefror 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
1 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
7 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
8 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
14 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
15 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
21 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
22 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
28 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau
29 Mawrth 2026 10.15 11.30 12.45 15.00 16.15 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Oriau Agor

Monday 10 am–5 pm
Tuesday 10 am–5 pm
Wednesday 10 am–5 pm
Thursday 10 am–5 pm
Friday 10 am–5 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm

 Lleoliad

Caerdydd   
CF5 6XB

  Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

 Mynediad

  Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau