Digwyddiad: Gwyl Ifan
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen
Dewch i ddathlu Gŵyl Ifan yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru!
Gŵyl sy’n dathlu traddodiadau dawnsio gwerin Cymru a gwledydd tramor yw Gŵyl Ifan.
Bob blwyddyn mae dawnswyr yn dod at ei gilydd i berfformio a diddanu’r cyhoedd gyda dawnsio trawiadol, gwisgoedd lliwgar, cerddoriaeth hwylus a defodau traddodiadol.
Ymunwch â ni i wylio Cwmni Dawns Werin Caerdydd, yn perfformio dawnsio gwerin ac yn codi'r Pawl Haf.
Croeso cynnes i bawb!
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cwmni Dawns Werin Caerdydd (cdwc.org)
*Gweithgareddau dawns yn ddibynnol ar y tywydd.