Digwyddiad:Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru 2023

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Bydd Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 9 a 10 Medi! 

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, bydd Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.   
 
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.
 
Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am gefnogi’r gweithgareddau i’r teulu fel rhan o’r ŵyl.
 
Bydd CoedLan ar agor yn ystod y digwyddiad - nodwch bod tocynnau ar gael i brynu ar y dydd yn unig yn ystod Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru ar 9 a 10 Medi.
 
Gwefan Gŵyl Fwyd
 
Stondinau yn cynnwys:
Austringer Cider  |  Babita's Spice Deli  |  Bao Selecta  |  Gin Tin Bar  |  Green Beans  |  Hello Good Pie  |  Ice Green  |  Minto's Patisserie  |  Mr Croquewich  |  Quantum Coffee Roasters  |  Rickshaw Rodeo  |  The Pudding Wagon  |  The Real Ting  |  Welsh Gluten Free Bakery Products  |  a llawer mwy. 

Gwybodaeth

9 a 10 Medi 2023, 10am-6pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau