Digwyddiad:Dathlu Natur

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i ni ddathlu cyfoeth byd natur yng Nghymru.
Bydd gwyddonwyr Amgueddfa Cymru wrth law i roi cipolwg ar amrywiaeth rhyfeddol o fywyd, gan ddefnyddio sbesimenau o’n casgliadau sy’n cael eu storio yng Nghaerdydd.
Dewch i ddysgu gan ein harbenigwyr ar blanhigion, anifeiliaid a ffosilau.
Rydyn ni’n cydweithio â sawl elusen a sefydliad natur lleol, fydd yn siarad am eu projectau gwych sy’n helpu i ddiogelu ein bioamrywiaeth.
 

Pethau i’w Gwneud

  • Ymunwch â’n curaduron sy’n gofalu am ein casgliadau gwyddorau naturiol, ac edrych yn fanwl ar folysgiaid, anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol, ffosiliau, pryfed, anifeiliaid asgwrn cefn a phlanhigion.
  • Dewch i chwarae ein gêm nadroedd ac ysgolion enfawr gyda chwestiynau am blanhigion, anifeiliaid a ffosiliau.
  • Ymchwiliwch i sut mae hadau’n teithio’r byd a gwneud eich hedyn hedfan eich hun gyda’n curaduron botaneg.
  • Rhowch dro ar rai o’n taflenni sylwi i ddysgu am falwod dŵr gerddi, teithwyr ar blastigion y môr, gwymon a ffosilau.
  • Dysgwch am fywydau amffibiaid ac ymlusgiaid sy’n byw yng Nghymru.
  • Dewch i sgwrsio â’n curaduron entomoleg am ddynwared a chuddliw pryfed, a chreu eich pryf brigyn eich hun i fynd adref gyda chi.
  • Dilynwch ein llwybr adar trwy diroedd Sain Ffagan.
  • Siaradwch â’r Hedgehog Helpline i ddarganfod beth i’w wneud os byddwch chi’n gweld draenog yn eich gardd.
  • Dewch i ddysgu am warchod gloÿnnod byw a gwenyn.
  • Siaradwch â’r arbenigwyr ar blanhigion o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
  • Bydd SEWBReC – Canolfan Gofnodion Bioamrywiaeth De ddwyrain Cymru – ar y safle i siarad am gofnodi ein bywyd gwyllt.
  • Dysgwch am adfer coedwigoedd ar draws y byd gyda Maint Cymru i sicrhau Dyfodol gyda Choedwigoedd.
  • Bydd Cymru Wyllt yma i drafod ystod o brojectau maen nhw’n eu harwain i helpu i adfer byd natur. Dewch draw i weld sut allwch chi helpu!

Gall digwyddiadau newid ar y funud olaf, felly ffoniwch yr Amgueddfa cyn teithio'n arbennig. 
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.

Gwybodaeth

11 Gorffennaf 2026, 10am - 4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dau unigolyn yn edrych ar blanhigion sy’n cael eu harddangos ar fwrdd mewn digwyddiad dan do yn Sain Ffagan, Agueddfa Werin Cymru
Unigolion yn arsylwi ac yn rhyngweithio gyda sioe wyddoniaeth, gan ganolbwyntio ar hambwrdd sy’n cynnwys planhigion gwyrdd, gyda microsgopau a chyfarpar arall yn agos
Logo Postcode Lottery
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Digwyddiadau perthnasol

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau