Digwyddiad:'Tŷ Del o Fewn Muriau Hen Gastell': Darlith Arbennig ar Gastell Sain Ffagan
Ymunwch â Dr. Bethan Scorey am ddarlith arbennig yng Nghastell Sain Ffagan i ddathlu rhyddhau ei llyfr newydd, St Fagans Castle: the Architectural and Social History of a Welsh Country House.
Wedi'i gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru, dyma’r astudiaeth cynhwysfawr cyntaf o'r plasty Gradd I, Elisabethaidd yng nghanol Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Yn y ddarlith hon, bydd Bethan yn rhoi trosolwg diddorol o hanes y Castell o'r ddeuddegfed ganrif i'r ugeinfed ganrif, gan drafod hanes pensaernïol, hanes gerddi a hanes chymdeithasol. Byddwch yn dysgu am Dr. John Gibbon, y cyfreithiwr bonheddig lleol a adeiladodd y tŷ, a sut y gwnaeth sblas fel un o'r tai cymesur cyntaf yng Nghymru. Byddwch yn clywed am y tair cenhedlaeth olynol o fenywod Windsor-Clive a siapiodd y tŷ a'r gerddi yn y cyfnod Fictoraidd. Byddwch yn darganfod unwaith ac am byth pam y gelwir y tŷ hwn yn 'Gastell'. Bydd cyfle hefyd i brynu copi o'r llyfr, wedi'i lofnodi.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Gastell Sain Ffagan, gyda prosiect ail-doi mawr ar y gweill a fydd yn rhoi gwedd newydd iddo. Mae'r adeilad hwn mor gyfarwydd i gynifer ohonom, ond rydych chi'n sicr o adael y ddarlith hon gyda gwerthfawrogiad hollol newydd ohono.
Hanesydd pensaernïol o Gaerdydd ydy Dr. Bethan Scorey. Cwblhaodd ei PhD yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor y llynedd. Nawr gallwch ddod o hyd iddi yn cyd-gyflwyno cyfres S4C ‘Cartrefi Cymru’, sy’n dod â hanes pensaernïol Cymru i gynulleidfaoedd newydd. Bu Bethan yn gweithio fel Gofalwr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am ddegawd, yn dehongli’r adeiladau hanesyddol i ymwelwyr, o Dai Crwn Oes yr Haearn Bryn Eryr i’r Prefab o’r 1940au. Dyma sylfaen ei hunaniaeth fel hanesydd pensaernïol, ac mae hi wrth ei bodd yn dychwelyd i gyflwyno ei hymchwil diweddaraf.
Cynhelir y digwyddiad mewn partneriaeth gyda Sefydliadau Ymchwil Ystadau Cymru (Institute for the Study of Welsh Estates) a Gwasg Prifysgol Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd y ddarlith yn cael ei chyflwyno yn Saesneg (iaith y llyfr), gyda chyfleoedd i ofyn cwestiynau yn Gymraeg neu Saesneg.
- Oedran addasrwydd: 11+
- Cynhelir y digwyddiad hwn yng Nghastell Sain Ffagan. Cwrdd yn y Castell (gwybodaeth hygyrchedd isod).
- Bydd y ddarlith yn para am oddeutu 50 munud, gyda chyfle i ofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn trafodaeth wedyn.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
- Mae mynedfa'r Castell tua 450m o'r Brif Adeilad, ac mae'n cynnwys dringo nifer o risiau serth.
- Mae llwybr hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn ar gael, tua 650m o'r Brif Adeilad. Mae tirlun ochr y Castell yn serth mewn mannau ac yn gallu profi'n anodd i rai defnyddwyr cadair olwyn a'u cynorthwywyr. Nodir y llwybrau haws ar yr arwyddbyst. Gellir prynu copi o fap yn egluro llwybrau addas i gadeiriau olwyn.
- Gellir hefyd cyrraedd y Castell drwy gatiau Mynedfa'r Castell ym mhentref Sain Ffagan.
- Ar ôl cyrraedd Castell Sain Ffagan, mae angen mynd i fyny ychydig o risiau heb ganllaw i gyrraedd y Neuadd.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 28 Tachwedd 2026 | Sold Out | |
| 28 Tachwedd 2026 | 13:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd