Digwyddiad:Torchau Helyg Nadoligaidd
Dysgwch ddefnyddio technegau plygu helyg traddodiadol. Dewch i greu torch Nadoligaidd hardd, naturiol ar gyfer eich cartref mewn cwrs ymarferol, hanner diwrnod. Arweinydd y cwrs yw Clare Revera, Welsh Baskets
Gwybodaeth Bwysig
Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â'n bwytai a chaffis ar y safle. Gallwn gynnig gostyngiad o 10% yn ein bwytai a chaffis* i ddeiliaid tocyn cwrs *(heblaw am Bopty Derwen)
Lleoliad
Cynhelir y cwrs yma yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Defnyddiwch god post CF5 6XB ar gyfer llywio â lloeren.
Parcio
Gallwch barcio yn y maes parcio i ymwelwyr, codir tâl o £7 a gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn
Iaith
Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg
Oedran
16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)
Hygyrchedd
Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.
Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10%, dewch yn aelod heddiw.
Elusen yw Amgueddfa Cymru. Mae popeth a brynwch yn ein siopau a phob rhodd a roddwch, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma i bawb ei fwynhau.
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 29 Tachwedd 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
| 29 Tachwedd 2026 | 13:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd