Arddangosfa:Cymru... Hip Hop
Mae arddangosiad Cymru... Hip Hop yn edrych ar esblygiad diwylliant Hip Hop yng Nghymru. Dewch i gael blas ar gerddoriaeth, dawns a ffasiwn drwy lygaid pobl sy'n byw ac yn creu Hip Hop yng Nghymru.
Cewch glywed am berfformwyr, dawnswyr, DJs, MCs, artistiaid graffiti ac arloeswyr cymunedol sydd wedi helpu i adeiladu a chynnal y sîn ar draws y cenedlaethau.
Ymunwch â ni i ddathlu Hip Hop ddoe, heddiw ac yfory, a gweld sut mae'r mudiad byd-eang hwn yn dal i ddylanwadu ar gymunedau ledled Cymru.
Mae'r arddangosiad hwn yn rhan o oriel Cymru... ac yn fersiwn lai o arddangosfa Hip Hop: Stori Cymru a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2025-26.
Gwybodaeth
Bŵmbocs – rhan allweddol o ddod â Hip Hop i strydoedd Cymru yn y 1980au.
DJ Jaffa wrth y decs yn Roxe Jam, Caerdydd, 2010.
© Dan Green
dangreen.net @dangreen
Dull Di-Drais, Llwybr Llaethog, 1986 – y record Hip Hop cyntaf o Gymru.
Ymweld
Oriau Agor
Mynediad
Canllaw MynediadGwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr
Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:
- Pyllau dŵr a llynnoedd
- Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
- Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog
Parcio
Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd