Arddangosfa:Cymru: Ein Straeon Ni

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae gan bob cymuned straeon sy’n werth eu hadrodd.

Straeon pwy sy’n siapio ein dealltwriaeth o Gymru? Beth sy’n gwneud i rywle deimlo fel cartref?

Trwy wrthrychau, atgofion a gweithiau celf newydd sydd wedi’u creu gan gymunedau ledled Cymru, mae arddangosfa Cymru: Ein Straeon Ni yn archwilio sut mae pobl yn creu ymdeimlad o berthyn ac yn trosglwyddo straeon o genhedlaeth i genhedlaeth.

Mae Cymru: Ein Straeon Ni yn dod â lleisiau pum cymuned o bob cwr o Gymru at ei gilydd i archwilio sut mae atgofion, traddodiadau a phrofiadau lleol yn helpu i adrodd stori’r genedl.

Cafodd yr arddangosfa hon ei chreu drwy broject REACH (Trigolion yn Ymgysylltu â’r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth) y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Amgueddfa Cymru.

Daeth REACH â chymunedau at ei gilydd i archwilio eu hanes, rhannu atgofion a dod o hyd i straeon sydd wedi’u cuddio mewn llefydd bob dydd. Creodd pobl o bob cymuned weithiau celf ar gyfer yr arddangosfa, wedi’u hysbrydoli gan eu hanes, treftadaeth a phrofiadau lleol. Mae’r rhain yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru sydd wedi’u dewis am eu cysylltiadau ag atgofion, profiadau a chymunedau.

Ymysg y gweithiau celf a gafodd eu creu gan aelodau’r cymunedau mae draig fawr a gafodd ei chario yng Ngharnifal Butetown, cerfluniau helyg a chlytwaith wedi’i ysbrydoli gan afon Cleddau. Mae’r gwrthrychau o gasgliad Amgueddfa Cymru sy’n cael eu harddangos yn cynnwys telyn a gafodd ei gwneud gan Evan James o Bontypridd, llestr gwasael o Grochendy Ewenni, Mari Lwyd o Langynwyd, a char bara ceirch o Lanllyfni.

Gyda’i gilydd, mae’r gweithiau celf a’r gwrthrychau yn adrodd straeon am bobl, llefydd a pherthyn o bob cwr o Gymru.

Mae Cymru: Ein Straeon Ni yn dathlu sut mae pobl yn cysylltu â Chymru, â’i gilydd, a’r llefydd maen nhw’n eu galw’n gartref.

Mae REACH Cymru yn bosibl gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae cymunedau ledled Cymru wedi gallu archwilio straeon, treftadaeth a hanes drwy’r celfyddydau creadigol.

Mae REACH Cymru wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r canlynol:

Y Brifysgol Agored yng Nghymru Amgueddfa Cymru Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

Adra

Cyngor Celfyddydau Cymru

ateb

Grŵp Codi

Cymdeithas Tai First Choice

Innovate Trust

Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru

Casgliad y Werin Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cymdeithas Tai Taf

Yr Orsaf

Gwybodaeth

23 Hydref 2026 – 3 Mai 2027
Dod yn fuan
Pris £5 (Plant am ddim)
Addasrwydd Pawb
Graffig sy'n cynnwys darluniau o wrthrychau allweddol o arddangosfa 'Wales: Told by Us', gan gynnwys Mari Lwyd, Tŷ Dryw, draig goch a morfil glas.

Ymweld

 Oriau Agor

Dydd Llun 10 am–5 pm
Dydd Mawrth 10 am–5 pm
Dydd Mercher 10 am–5 pm
Dydd Iau 10 am–5 pm
Dydd Gwener 10 am–5 pm
Dydd Sadwrn 10 am–5 pm
Dydd Sul 10 am–5 pm

Ar agor ar wyliau banc, heblaw am y Nadolig.

 Lleoliad

Caerdydd   
CF5 6XB

  Map a Sut i Gyrraedd Yma

 Mynediad

  Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

 Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis ar gael am £45. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

 Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau