Digwyddiad:Wyna yn Llwyn-yr-eos

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Pa ffordd well o ddathlu dechrau’r gwanwyn nag wrth groesawu newydd-ddyfodiaid y sied wyna? Ymunwch â ni i groesawu’r ŵyn bach, a gallwch ddilyn hynt a helynt y mamau a’r babis ar #Sgrinwyna ar wefan yr Amgueddfa. Neu, os ydych chi awydd profiad mwy ymarferol, dewch ar un o’n Dyddiau Wyna!

Bydd wyna Llwyn-yr-eos ar agor i’r cyhoedd bob dydd eleni. Os ydych yn bwriadu dod draw i’r fferm i gyfarfod ein mamau a babis newydd, cofiwch ddarllen y cyngor isod:

  • Gall dod i gyswllt â defaid yn ystod cyfnod wyna fod yn beryglus i fenywod beichiog. Os ydych chi’n feichiog, neu’n credu y gallech chi fod, darllenwch y canllawiau GIG cyn dod i gyfarfod â’n defaid.
  • Mae’r holl ddefaid yn y siediau dros gyfnod wyna un ai yn feichiog neu’n famau newydd amddiffynnol. Mae gennym bolisi ‘dim cyffwrdd’ ar gyfer yr holl ddefaid ac ŵyn er mwyn eu gwarchod. Gofynnwn i chi fod yn dawel a thyner o gwmpas yr anifeiliaid.
  • Bydd pob oen iach yn cael ei fwydo gan ei fam. Bydd unrhyw fwydo ychwanegol â photel ar gyfer yr ŵyn bregus yn cael ei wneud gan aelod o’r tîm, a ddim gan aelodau’r cyhoedd.
  • Cŵn – Er mwyn diogelu lles ein defaid, ni chaniateir cŵn ar y fferm yn ystod y tymor wyna. Mae croeso i chi mwynhau gweddill y safle gyda'ch ci ar dennyn byr. 

Gwybodaeth

1–22 Mawrth 2024, 10am-5pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm bob dydd.

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau o 2pm ar 23 Rhagfyr. Ar gau 24 - 26 a 1 Ionawr. 

Ar gau 8 Ionawr 2025 ar gyfer hyfforddiant staff. 

Parcio

Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa bydd yn rhaid talu am barcio, £7 y diwrnod, gallwch dalu trwy ddefnyddio arian parod neu gerdyn. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tocyn tymor 12 mis am £30. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer. Os ydych chi’n gyrru i’r Amgueddfa, fe fydd y mynedfeydd o bentref Sain Ffagan a’r A4232 ar agor.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae’r bwyty a caffi ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
  • Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa. 

Mynediad

> Canllaw Mynediad

Gwybodaeth Diogelwch ar gyfer Ymwelwyr

Oherwydd natur hanesyddol y safle, sylwch ar y peryglon potensial canlynol, os gwelwch yn dda:

  • Pyllau dŵr a llynnoedd
  • Perygl o faglu ar lwybrau a stepiau anwastad
  • Arwynebedd llithrig llwybrau, llethrau a mannau glaswelltog

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau