Ymchwil ym maes Celf – astudiaethau achos
Beth y gall ein casgliadau celf a ffotograffiaeth ei ddweud wrthym am rôl Cymru o safbwynt llunio mudiadau, gyrfaoedd, casgliadau a rhwydweithiau celfyddydol a chymunedau ymarfer celfyddydol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a rôl Cymru o safbwynt cyfrannu iddynt?
Mae’r casgliadau celf ymysg y gorau yn Ewrop. Maent yn rhychwantu pum can mlynedd o baentiadau, darluniau, cerfluniau, gwaith arian, cerameg a chelf gymhwysol arall ardderchog o Gymru a’r byd benbaladr. Maent yn cynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o gelf argraffiadol yn ogystal â chasgliad pwysig o gerfluniau, y mae Rodin a mudiad ‘Cerflunwaith Newydd’ diwedd y 19eg ganrif yn ganolbwynt iddo. Mae casgliadau diweddarach yn cysylltu â mudiadau celf fodernaidd/ôl-fodernaidd mwy diweddar ledled y byd. Mae’r ffaith bod casgliad mawr o ffotograffau wedi dod i’n meddiant yn ddiweddar wedi ein hysbrydoli i benodi curadur ffotograffiaeth cyntaf yr Amgueddfa, gan greu cyfleoedd newydd o ran ymchwil. Mae ein gweithiau celf a’n ffotograffau yn cynnwys cyfleoedd cyfoethog a helaeth i ymchwilio i’r cysylltiadau niferus rhwng cynnwys symbolaidd ac artistig a materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes, mudiadau hanesyddol a diwylliannol a’r materion sydd o bwys i ddisgyblaethau eraill.
Projectau a amlygwyd:
Gillian Ayres
I Gillian Ayres, yr artist mynegiadol haniaethol enwog, diben paentio yw ‘cyfleu a mynegi ein cyflwr aruchel, ein ffrwydrad llachar mewn gofod’. Bu gwaith ymchwil yn seiliedig ar gyfweliadau â’r artist yn archwilio sut y daeth i weithio yng Nghymru yn yr 1950au a sut yr ysgogodd hynny awydd ynddi i ddychwelyd yma’n ddiweddarach yn ei bywyd, pan ymgartrefodd ym Mhen Llŷn yn yr 1980au. Yno, daeth ar draws tirwedd a ffordd o fyw a ysbrydolodd ei chyfnod mwyaf cynhyrchiol. Erbyn hyn cynfasau lliwgar, mawr y ‘cyfnod yng Nghymru’ a’u gwead trwchus yw ei phaentiadau mwyaf adnabyddus a’r paentiadau sydd wedi cael y ganmoliaeth fwyaf gan feirniaid.
Rhaglen Dyfarniadau Creu Casgliadau’r Gronfa Gelf: Ffotograffwyr o America ac Ewrop yn gweithio yng nghymoedd y de o’r 1950au i’r 1980au
Mae’r Gronfa Gelf wedi dyfarnu £65,000 i Dr Bronwen Colquhoun, yr Uwch-guradur Ffotograffiaeth, i greu casgliad o ffotograffau a hanesion llafar sy’n adlewyrchu gweithgareddau ffotograffwyr rhyngwladol allweddol a fu’n gweithio yng nghymoedd y de o’r 1950au i’r 1980au. Nodwyd bod hwn yn gyfnod pwysig ym maes ffotograffiaeth yng Nghymru, nad yw wedi’i gynrychioli mewn unrhyw gasgliad Cymreig. Roedd twf a dirywiad diwydiant trwm yn destun deniadol i ffotograffwyr o America, a oedd yn cynnwys Robert Frank, Eugene Smith a Bruce Davidson. Ceisiodd pob un gofnodi bywydau cymunedau ac effaith diwydiant ar y dirwedd. Cafodd y lluniau eu cyhoeddi ledled y byd, gan chwarae rhan allweddol yn y broses o osod bywyd a diwylliant Cymru mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’r Dyfarniad Creu Casgliad Newydd yn cynnig cyfle unigryw i ymchwilio i waith ffotograffwyr o America ac Ewrop yn y cyfnod hwn a’i grynhoi, a fydd yn galluogi’r Amgueddfa a’n hymwelwyr i archwilio sut y mae delweddau byd-eang o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru wedi’u dangos trwy ffotograffiaeth.
Sut y mae dylanwadau cenedlaethol a rhyngwladol wedi llunio diwylliant ac arferion celf yng Nghymru a’r gefnogaeth a gaiff celf yng Nghymru?
Projectau a amlygwyd:
Kizuna: Japan, Cymru, Dylunio
Yn 2012 croesawodd Amgueddfa Genedlaethol Hanes Japan ein Pennaeth Celf Gymhwysol fel ysgolhaig gwadd, a llofnododd Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag Amgueddfa Cymru. Roedd hynny’n sail i broject ymchwil cydweithredol a arweiniodd at yr arddangosfa uchelgeisiol Kizuna a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn ystod haf 2018. Roedd yr arddangosfa’n cynnwys gwrthrychau o gasgliadau o Gymru a chasgliadau cenedlaethol Japan, ac roedd yn cyflwyno naratif y cydberthnasau hanesyddol a chyfoes rhwng Cymru a Japan trwy bersbectif gwaith celf a dylunio o Japan. Cyhoeddwyd gwaith ymchwil yn y catalog a oedd yn cyd-fynd â’r arddangosfa ynghyd ag erthygl a adolygwyd gan gymheiriaid ar gasgliad seremoni de a brynwyd i’r Amgueddfa gan yr artist-grochenydd digymar, Bernard Leach (1887-1979).
Cerameg o Gymru
Mae astudio’r casgliadau cerameg yn datgelu prosesau’r farchnad ar gyfer cerameg o Brydain ddechrau’r 19eg ganrif. Er enghraifft roedd gan y ceramegydd enwog, Thomas Pardoe, rwydwaith busnes dylanwadol a oedd yn ymestyn o Fryste i Gymru, a amlygir yn ei waith cerameg, ei lyfrau brasluniau, ei ddarluniau, ei luniau dyfrlliw a’i decstilau wedi’u paentio – y mae pob un ohonynt i’w gweld i raddau helaeth yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
Ym mha ffyrdd y mae diwylliant a chelf Cymru a’i hanes o ran dylunio’n wahanol mewn cyd-destun rhyngwladol?
David Nash
Mae Cerfluniau’r Tymhorau (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 3 Mai – 1 Medi 2019) yn arddangosfa fawr sy’n bwrw golwg yn ôl ar waith David Nash – y cerflunydd a’r artist tir o bwys rhyngwladol sydd wedi bod yn byw ac yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog ers 1967. Mae’r arddangosfa yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o waith Nash o ddiwedd y 1960au i’r presennol ac mae’n defnyddio gwaith ymchwil newydd i archwilio’r ffyrdd y mae lleoliad, lle a chyfnewid rhwng y ‘lleol’ a’r ‘rhyngwladol’ wedi dylanwadu ar ei arferion. Ceir cyhoeddiad sy’n cyd-fynd â’r arddangosfa, sef David Nash: 200 Tymor Capel Rhiw, a gyhoeddwyd gan Amgueddfa Cymru yn Gymraeg a Saesneg.
Arddangosfa – Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant
Mae’r arddangosfa Bernd a Hilla Becher: Delweddau Diwydiant (26 Hydref 2019 – 1 Mawrth 2020) yn archwilio gwaith Bernd a Hilla Becher, dau o artistiaid mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Hon fydd yr arddangosfa fawr gyntaf yn y DU sy’n bwrw golwg yn ôl ar eu gwaith hyd yma, a hon oedd yr arddangosfa olaf i Hilla Becher gychwyn arni cyn ei marwolaeth yn 2015. O’r 1960au tan 2007, bu’r Bechers yn cydweithio ar broject ffotograffig cyfareddol a oedd yn cofnodi’n fanwl bensaernïaeth ddiwydiannol ar draws Ewrop a’r Unol Daleithiau: tyrau weindio, tyrau dŵr, seilos glo, ffwrneisi chwyth, odynau calch, codwyr grawn, gweithfeydd paratoi, purfeydd olew ac ati. Yn 1966, ar ôl cael cymrodoriaeth gan y British Council, a gyda chefnogaeth y Bwrdd Glo Cenedlaethol, daeth y Bechers i Gymru a sefydlu cartref dros dro gyda’u mab ifanc, Max, ar faes gwersylla ger Glyn-nedd. O’r fan honno bu modd iddynt dynnu cyfres helaeth o luniau o amgylch Hirwaun, Bargod, Treorci, Blaenafon a sawl lleoliad arall yng Nghwm Rhondda.
Gan weithio gyda churadur allanol, sef Dr Russell Roberts, mae’r arddangosfa wedi’i datblygu mewn partneriaeth uniongyrchol â stiwdio ac archif Becher. Mae’n cynnig cyfle unigryw i ddeall effaith gwaith y Bechers ar y cymunedau yn yr ardaloedd hyn o’r de, ac mae’n datgelu naratif newydd ynghylch y ffotograffau hyn sydd bellach yn enwog yn rhyngwladol. Yn dilyn gwaith ymchwil newydd sydd wedi’i ddatgelu yn yr archif, bydd yr arddangosfa’n dangos dyfnder ymwneud y Bechers â phensaernïaeth ddiwydiannol Cymru a’r stori nas adroddwyd ynghylch gweithgarwch artistig sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid a ffotograffwyr ers hynny.
John Piper: Mynyddoedd Cymru
Mae mynyddoedd Eryri yn dirwedd arw, ddramatig a ffurfiwyd o dyffiau o ludw folcanig, cymoedd rhewlifol dwfn, clogwyni uchel, marianau a llynnoedd a amgylchynir gan greigiau. Y tir mynyddig, creigiog hwn a ffurfiwyd yn yr oes Ordofigaidd (450 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a ysbrydolodd baentiadau llawn emosiwn yr artist o Brydain, John Piper (1903-92). Mae paentiadau pwerus Piper o’r dirwedd yn dangos dealltwriaeth drylwyr o ddaeareg Eryri, a astudiodd yn fanwl. Wrth iddo ddarlunio rhigolau’r creigiau, eu hwynebau cymalog ac union ffurf a chysgodion clogfeini neilltuol, dywed iddo deimlo ei fod yn gweld y mynyddoedd am y tro cyntaf ac yn eu gweld fel nad oedd neb wedi’u gweld o’r blaen. Yn 2012 galluogodd project daeareg-celf ar y cyd yn Amgueddfa Cymru ein curadur daearegol i nodi union leoliadau’r golygfeydd a baentiwyd gan Piper, gyda ffotograffau o’r lleoliadau hynny’n cael eu harddangos ochr yn ochr â phaentiadau Piper mewn arddangosfa yn 2012.
Sut y gall mathau o hunanfeirniadaeth gan amgueddfeydd fod yn ddefnyddiol wrth herio’r strwythurau grym sy’n sail i hanes celf traddodiadol ac sy’n parhau’r hanes hwnnw gan wthio ffurfiau eraill ar ddiwylliant gweledol i’r cyrion?
Projectau a amlygwyd:
Penderfyniad Pwy?
Drwy gydol 2017 bu cydweithwyr o Adran Gelf ac Adran Ddysgu’r Amgueddfa yn gweithio gyda grŵp o ddeg o ddefnyddwyr gwasanaeth o’r Wallich – sef elusen Gymreig sy’n cynorthwyo oedolion digartref – er mwyn curadu a threfnu arddangosfa o eitemau a oedd newydd ddod i feddiant yr Amgueddfa ac a oedd yn rhan o’i chasgliad o gelf fodern a chyfoes. Trawsnewidiodd yr arddangosfa a ddilynodd, sef Penderfyniad Pwy? Creu cysylltiadau â chelf gyfoes (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, 28 Hydref 2017 – 2 Medi 2018) agwedd y cyfranogwyr at gelf a’r Amgueddfa, a chafodd prosesau gwneud penderfyniadau mewnol y sefydliad eu herio hefyd, sydd ynghudd i bob pwrpas. Roedd defnyddio hunanfeirniadaeth yn rhan o’r fethodoleg ar gyfer trefnu Penderfyniad Pwy? yn arfaethu bod yn gyfrwng ar gyfer newid sefydliadol – yn ddull a fyddai’n hybu Amgueddfa fwy democrataidd ac atebol.