Ymchwil ym maes Dysgu ac Ymgysylltu – astudiaethau achos
Sut y gallwn ddatblygu a dyfnhau ein perthynas â chymunedau a dinasyddion, sy’n ymwelwyr ac nad ydynt yn ymwelwyr, a dysgu am eu hanghenion?
Mae a wnelo gwaith dysgu ac ymgysylltu’n bennaf â gwella lles a dysgu gydol oes. Mae hynny’n helpu’r Amgueddfa i ymateb i gynnwys polisïau yng Nghymru. Er enghraifft, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus (gan gynnwys Amgueddfa Cymru) i gyfrannu at Gymru lewyrchus, gydnerth, iachach a mwy cyfartal lle ceir cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog.
Mae Amgueddfa Cymru yn bartner arweiniol yn rhaglen Cyfuno Llywodraeth Cymru, y bwriedir iddi greu cymunedau cydnerth trwy gael pobl i ymgysylltu â threftadaeth a diwylliant. Rydym yn ymwneud â datblygu’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ein comisiynu i gynghori ynghylch y llinynnau ‘profiad’. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd yn rhoi cyngor i ni ynghylch datblygu’r Cynllun Hawliau Diwylliannol Pobl Ifanc.
Hands-on Heritage
Bydd pobl ifanc yn aml yn ystyried amgueddfeydd yn rhywbeth ‘i bobl eraill’. Efallai eu bod yn teimlo nad yw treftadaeth yn berthnasol i’w bywydau nhw ac nad yw amgueddfeydd yn apelio atynt. Gall treftadaeth a diwylliant ymddangos yn bethau sych ac elitaidd ac yn bethau rhy draddodiadol neu addysgiadol. Mae Amgueddfa Cymru wedi meithrin profiad o weithio gyda phobl ifanc, er enghraifft drwy’r projectau Ar Dir Cyffredin a Bling! a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Eu gwaddol oedd creu Fforymau Ieuenctid yn 2013, sef grwpiau gwirfoddol a gaiff eu rhedeg gan bobl ifanc, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i gynllunio dulliau gwell o ymwneud ag amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Daw’r cyllid diweddaraf gan Cicio’r Llwch, sef rhaglen Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc a chymunedau. Nod y rhaglen yw gweithio gyda phobl ifanc 14-24 oed sydd o gefndiroedd amrywiol ac sydd ag anghenion a diddordebau amrywiol. Mae Hands-on Heritage yn cynnig pedair lefel o ymgysylltu: gweithgareddau hanner diwrnod unigol; cyrsiau 5-7 diwrnod; projectau mwy o faint dros gyfnod o 6 mis; a rolau ‘Arweinwyr Treftadaeth’. Yn rhan o’r gweithgareddau byrrach gall pobl ifanc fod yn curadu arddangosfeydd bach, yn gwneud gwaith adeiladu, dylunio a chadwraeth, yn gwirfoddoli neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ail-greu. Mae ymrwymiad dros gyfnod hwy yn cynnig sgiliau wedi’u hachredu ym maes marchnata, cyfryngau digidol, arddangosfeydd a digwyddiadau blynyddol.
Mae’r project yn gweithio gyda Dr Dawn Mannay o Brifysgol Caerdydd, sy’n arbenigo mewn defnyddio dulliau creadigol gyda phobl ifanc ac sy’n cynnig dealltwriaeth o waith cymdeithasegol ynghylch pontio i fyd oedolion ac ynghylch diwylliannau pobl ifanc ac amryw agweddau ar eu hunaniaeth gymdeithasol – sy’n cynnwys LHDT, rhywedd, dosbarth ac anabledd.
Sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol a chydgynhyrchiol yn ein gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu â chymunedau?
Amgueddfa Cymru yw darparwr mwyaf gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth yng Nghymru (mae 500,000 o blant ysgol, myfyrwyr, teuluoedd, pobl ifanc ac oedolion yn ymwneud â’r rhaglenni dysgu dwyieithog bob blwyddyn).
Mae bylchau pwysig i’w llenwi yn y sylfaen wybodaeth am rôl addysgol a chymdeithasol amgueddfeydd mewn cymunedau a gyda grwpiau demograffig nad ydynt yn rhan o gynulleidfaoedd traddodiadol amgueddfeydd. Gall ymchwil ynghylch dysgu ac ymgysylltu archwilio sut y gellir defnyddio tystiolaeth ymchwil i ddylanwadu ar y rhain. Trwy gynnwys elfennau ymchwil blaengar mewn cynigion ar gyfer projectau, mae’r tîm wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn ddiweddar o safbwynt ennill grantiau gan gyllidwyr nad ydynt fel rheol yn ariannu ymchwil bur (e.e. Cronfa Dreftadaeth y Loteri; Sefydliad Paul Hamlyn). Wrth gyflawni ymchwil, mae’r tîm yn deall yr angen i gydweithio â chymunedau amrywiol niferus Cymru er mwyn dylunio’r gweithgareddau a’r arddangosfeydd gorau i hwyluso dysgu ac er mwyn archwilio sut y gellir defnyddio’r casgliadau, ac ymchwil yn eu cylch, yn effeithiol wrth ddarparu gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu â chymunedau.
Projectau a amlygwyd:
Mae fy ysgol gynradd yn yr Amgueddfa
Project cydweithredol rhwng Amgueddfa Cymru, cwmni penseiri Garbers & James a Choleg y Brenin Llundain oedd hwn, ac roedd yn rhoi prawf ar y ddamcaniaeth y gallai fod yna ddeilliannau buddiol o safbwynt dysgu ac o safbwynt cymdeithasol a diwylliannol i blant ysgol gynradd a’u teuluoedd pan fydd cyfran sylweddol o’u gwaith dysgu’n digwydd mewn amgueddfa, ac y gallai fod yna fanteision i amgueddfeydd hefyd.
Am gyfnod o chwe wythnos rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2016, cynhaliodd dau ddosbarth derbyn (plant 4-5 oed) o ysgol gynradd leol yn Abertawe eu holl wersi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Gwelwyd bod y manteision i amgueddfeydd, ysgolion a phlant a’u teuluoedd fel a ganlyn:
- I blant: mwy o hyder; sgiliau cymdeithasol a sgiliau cyfathrebu gwell; mwy o ymgysylltu â mannau diwylliannol lleol a mwy o ‘berchnogaeth’ arnynt.
- I amgueddfeydd: dealltwriaeth ddyfnach o gynulleidfaoedd iau, sy’n golygu ei bod yn bosibl datblygu rhaglenni mwy perthnasol a diddorol; defnydd estynedig o’u mannau a’u casgliadau.
- I ysgolion ac athrawon: enghreifftiau o ffyrdd creadigol o gyflwyno’r cwricwlwm, a hyder wrth ddefnyddio mannau heblaw’r ystafell ddosbarth.