Rhwydwaith Ymchwil AHRC ar aur yn rhanbarthau eurddwyn Cymru, 2450-800 BC
Dyfarnwyd grant rhwydwaith gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau i Dr Alison Sheridan (Amgueddfa Genedlaethol yr Alban) a Dr Jana Horak (Amgueddfa Cymru). Bydd hyn yn cynnull arbenigwyr rhyngwladol, gan gynnwys daearegwyr, geogemegwyr, metelegwyr archaeolegol, archaeolegwyr, a gofaint aur, er mwyn diffinio'r hyn sy'n hysbys ac anhysbys am
aur ym Mhrydain, ei ddefnyddiau a’i bwysigrwydd yn ystod yr Oes Gopr a’r Oes Efyddrhwng 2450 CC a 800 CC.
Bydd ymchwilwyr o bob cwr o Ewrop yn dod ynghyd mewn tri gweithdy (yng Nghaeredin, Caerdydd a Dulyn) er mwyn deall sut mae mynd ati i ateb y cwestiynau presennol. Jana Horak ac Adam Gwilt (Adran Hanes ac Archaeoleg) fydd yn arwain yr ail weithdy ym mis Mawrth 2019.
Am ragor o wybodaeth gweler https://www.nms.ac.uk/prehistoricgold a dilynwch y gwaith ar Facebook a Twitter drwy chwilio am #PrehistoricGold.
Find out more
> Amgueddfeydd Genedlaethol yr Alban
> Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau
> Aur oes efydd ar casgliadau arlein