Digwyddiad:Parti Mawr Big Pit
Dewch i Big Pit am ddiwrnod llawn cerddoriaeth, bwyd a dathlu i ddechrau'r Haf!
Eleni, rydym wedi ehangu ein horiau agor, felly gallwch fwynhau mwy o gerddoriaeth tan yr hwyr.
Dewch i fwynhau....
Detholiad o stondinau bwyd a diod gan gynnwys Burger Bros, Mama Lala, Green Gable Grazing a Squire Cafe
Perfformiadau gan: Band Dref Blaenavon, Ysgol Gwynllyw, Hari Powell, Awdl, Band Samba One Heart Drummers, Courtney Scotto & Full Dark No Stars
Gweithgareddau a chrefftau i'r teulu gan gynnwys Gweithdy Drymio a Phaentio Wynebau AM DDIM.
Cyfle i gwrdd â Byti'r Arth a chymryd hunlun.
Y Daith Danddaearol fyd-enwog, yr Arddangosfa Baddonau Pen Pwll, Brenin Glo: Y Profiad Cloddio a llawer mwy!
Noder:
Ni fydd marchnad grefft eleni.
Bydd ein Taith Danddaearol AM DDIM y penwythnos hwn.
Bydd y Daith Danddaearol olaf am 3pm.
Rhaglen Perfformiad:
11.30am – 12.00pm: Band Dref Blaenavon
12.45pm – 1.15pm: Band Samba One Heart Drummers
1.45pm – 2.15pm: Awdl
2.45pm – 3.15pm: Hari Powell
3.45pm – 4.15pm: The Situation
4.45pm – 5.30pm: October Revival
6.00pm – 6.45pm: Full Dark No Stars
Rhaglen Ychwanegol:
10.00am – 6.00pm: Siop Goffi Ar Agor
11.30am – 4.00pm: Cantin y Glowyr Ar Agor
11.30am – 5.00pm: Peintio Wynebau a Chrefftau Am Ddim
11.30am – 6.30pm: Marchnad Bwyd a Diod
12.00pm - 12.30pm: Sgyrsiau Hanes Bach - ‘Llwch glo yn y cypyrddau ffeilio’ - Menywod yn y Diwydiant Glo 1
12.00pm – 5.00pm: Gweithdy drymio galw heibio One Heart Drummers
1.15pm - 1.45pm: Sgyrsiau Hanes Bach - Lleisiau o 1842: Henrietta Franklin
2.15pm - 2.45pm: :Sgyrsiau Hanes Bach - ‘Llwch glo yn y cypyrddau ffeilio’ - Menywod yn y Diwydiant Glo 2
3.15pm - 3.45pm: Sgyrsiau Hanes Bach - Lleisiau o 1842: Zelophehad Llewellyn
HEFYD:
Arddangosiadau Gof gyda Len Howell ein Gof Preswyl
Dewis Cymunedau - cyfle i chi ddweud eich ddweud gyda am raglen cyllidebu gyfranogol sy’n rhoi cyfle i drigolion benderfynu sut y caiff cyllid ei fuddsoddi yn eu cymuned. Cewch gyfarfod â’r prosiectau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, clywed am eu syniadau, a gall trigolion fwrw eu pleidlais i benderfynu pa fentrau fydd yn derbyn cyllid ac yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.
Ydych chi'n bwriadu mynychu'r ŵyl?
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Y Parti Mawr 2026
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd