Hafan y Blog

Sbeisys a pherlysiau o Dde Asia

Hasminder Kaur Aulakh, 21 Chwefror 2023

Yn ddiweddar, mae curaduron o'r adran Fotaneg wedi bod yn gweithio ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) o’r enw Hawliau a Defodau. Nod y project yw cyd-greu dehongliadau newydd ar gyfer sbesimenau o Dde Asia trwy ychwanegu profiadau byw pobl a dealltwriaeth ddiwylliannol o wlad tarddiad y sbesimenau; cysylltu grwpiau cymunedol sy’n hanu o Asia â sbesimenau bioddiwylliannol perthnasol, ac annog deialog a chyfnewid gwybodaeth am fflora De Asia. 

Rydym wedi datblygu partneriaethau newydd gyda sawl aelod o'r gymuned Asiaidd leol trwy gyfres o weithdai rhyngweithiol. Roedd y digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth am y modd y defnyddir cynhyrchion o blanhigion wrth goginio ac ar gyfer meddyginiaeth mewn diwylliannau Asiaidd traddodiadol. Yma mae’r blogiwr gwadd, Hasminder Kaur Aulakh, yn rhannu ei phrofiad o ddefnyddio ffenigl, ffenigrig a chardamom gwyrdd gartref.

 

Mae sbeisys a pherlysiau’n hanfodion mewn ceginau ledled y byd a gall eu harogl ddwyn i’r cof ein cartref a’n teulu, a digwyddiadau ac atgofion hapus. Mae lle arbennig yn ein calonnau i’r hadau, y dail, y coesynnau a’r plisg hyn ac maent yn ein hatgoffa o'n hynafiaid, ein mamwlad a'n gwreiddiau, ac yn y corff yn gymorth i ni i wella a lleddfu anhwylderau.

 

Saumph (Ffenigl)

Mae’r ffenigl cyffredin, er enghraifft, neu saumph fel mae fy nheulu Punjabi yn ei alw, yn bresennol ar ffurf hadau sych neu fel powdwr ar aelwydydd De Asiaidd. Mae’n gynhwysyn allweddol yn y gymysgedd o hadau a ddefnyddir i lanhau’r daflod a gaiff ei chynnig gan lawer o fwytai Indiaidd i buro’r anadl. Cedwir y gymysgedd hon mewn cartrefi Indiaidd  yn aml a’i chynnig i breswylwyr a gwesteion ar ôl prydau bwyd. Ond mae'r hedyn hwn yn helpu’r broses dreulio hefyd gan ei fod yn cynnwys llawer o ffeibr. Gall fod yn ddefnyddiol ar ôl pryd mawr o fwyd, am ei bod yn bosibl ei fod yn tawelu leinin y perfedd. Yn aml byddwn yn rhoi hadau saumph mewn dŵr i fabanod sy’n dioddef colig. Mae cnoi saumph yn gysylltiedig â sefydlogi pwysedd gwaed a rheoli curiad y galon hefyd.

 

Gellir ategu manteision saumph yn y system dreulio gyda moli, neu radis gwyn yn Gymraeg, ac mae saumph yn gynhwysyn hanfodol wrth wneud moli wala paronthe. Mae saumph hefyd yn gynhwysyn allweddol mewn cha hefyd, sef te masala Indiaidd, ac mewn meddyginiaeth Ayurveda, trwytho saumph yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’i gymryd.

 

Methi (Ffenigrig)

Mae methi, neu ffenigrig, yn un arall o hanfodion aelwydydd Indiaidd. Mae'r perlysieuyn hwn yn ddefnyddiol fel dail ffres ac fel hadau. Cewch ddail methi ffres mewn cegin Indiaidd yn union fel mae basil ffres mewn cegin Eidalaidd, ac ni fyddai'r pryd Punjabi poblogaidd cyw iâr menyn yn blasu'r un fath heb ysgeintiad o methi ar ei ben. Yn ogystal â gwella blas y bwyd, mae methi yn cynnwys saponinau sy’n gallu helpu i leihau’r colesterol sy’n cael ei amsugno, gan wella iechyd y bwytäwr. Mae methi hefyd yn gadwolyn poblogaidd ar gyfer piclau hefyd.

 

Defnyddir methi fel meddyginiaeth yn y cartref hefyd. Gellir gwneud te ohono gyda mêl a lemwn i helpu i leddfu twymyn. Mae hefyd yn dda at drin problemau croen fel ecsema, llosgiadau a chrawniadau trwy wneud eli methi. Gellir defnyddio eli methi i drin cosi a chen ar y pen hefyd ac fe'i defnyddir mewn sebonau cosmetig at y diben hwn. Mae rhai’n credu bod gan methi briodweddau gwrthasid, ac o’i lyncu gall leddfu dŵr poeth.

 

Elaichi (Cardamom Gwyrdd)

Mae cryn ddadlau am y perlysieuyn hwn, gyda rhai’n cael ei flas yn atgas ac eraill yn barod i fwyta coden amrwd gyfan. Er hynny mae gan elaichi le pwysig yn y gegin yn Ne Asia. Fe'i defnyddir mewn seigiau sawrus fel biryani a bara ac mewn danteithion melys fel cha a  melysion eraill – does dim dwywaith bod lle pwysig i elaichi wrth goginio a phobi yn Ne Asia. Gwelir elaichi yn y gegin ar ffurf codenni, hadau, a/neu bowdwr, mae’n amlbwrpas a gall fod yn wyrdd neu'n ddu. Elaichi gwyrdd yw'r un a ddefnyddir gan amlaf yn Ne Asia, ond defnyddir elaichi ledled y byd yn ei wahanol ffurfiau.

 

Credir bod gan elaichi briodweddau gwrthficrobaidd, ac felly mae wedi’i ddefnyddio

mewn triniaethau llysieuol yn erbyn bacteria niweidiol. Yn debyg iawn i saumph a drafodwyd uchod, mae priodweddau gwrthficrobaidd elaichi yn ei wneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer puro’r geg a chredir y gall cnoi’r codenni helpu i atal bacteria yn y geg sy'n gallu achosi problemau fel heintiau a thyllau mewn dannedd. Credir hefyd ei fod yn bwerus ar gyfer lleddfu llid, ac y gellir ei ddefnyddio i helpu’r system dreulio a helpu i osgoi problemau fel adlif asid a chramp yn y stumog. Mae'r rhinweddau atal llid yn dda ar gyfer trin dolur gwddf hefyd o’i ddefnyddio fel trwyth mewn dŵr neu de poeth.

 

A dyna flas ar ddefnyddiau amrywiol perlysiau a sbeisys yn Ne Asia. Er nad yw'r rhain yn gallu cymryd lle triniaethau gwrthfiotig, brechlynnau neu boenladdwyr, does dim dwywaith eu bod yn gymorth gyda chyflyrau llai difrifol. Mae perlysiau a sbeisys sawrus a blasus seigiau De Asia yn hynod bwysig wrth gadw ein cyrff yn iach a’n stumogau’n llawn, ac maent wedi’u defnyddio o un genhedlaeth i’r llall.

 

 

Dr Heather Pardoe

Prif Guradur Uned Botaneg
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.