Arddangosfa:Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

 

Ydych chi'n bwriadu ymweld a'r arddangosfa?     Archebwch docyn nawr

Mwy o amser yn yr arddangosfa!

Ar 4 Awst, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor nes 9pm el rhan o'n cynllun oriau ychwanegol, Mwy o Amser. Dewch i fwynhau arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn nes 8pm!

O'r corgimwch i'r carw, ac o'r arth wen i'r corryn – mae arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn enwog yr Amgueddfa Hanes Natur yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd!

Mae’r arddangosfa yn cynnwys 100 o luniau wedi eu hôl-oleuo fydd yn tanio brwdfrydedd a chwilfrydedd drwy arddangos amrywiaeth a bregusrwydd bywyd gwyllt ein planed.

Mae Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn yn blatfform byd-eang ar gyfer arddangos golygfeydd mwyaf trawiadol ac anhygoel byd natur. Derbyniwyd dros 49,000 o gynigion eleni o bob cwr o’r byd.

Gan ddefnyddio grym emosiynol ffotograffiaeth, mae'r gystadleuaeth yn annog pobl i feddwl yn wahanol am eu perthynas â natur, ac i weithredu dros y blaned.

Caiff y delweddau eu beirniadu gan banel o arbenigwyr yn y maes, a'u dewis am eu creadigrwydd, eu crefft a'u cymhlethdod technegol. Datblygwyd a cynhyrchwyd cystadleuaeth Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn gan yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.

Mynediad am ddim i Aelodau!

Nid oes angen i Aelodau dalu am docyn i'r arddangosfa hon. Dewch yn Aelod am fynediad am ddim i arddangosfeydd sydd rhaid talu amdanynt.

Digwyddiadau Cysylltiedig

Cefnogwch Ni

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb. Dewch i fod yn rhan o stori Cymru trwy wirfoddoli, ymuno â ni neu gyfrannu. Eich stori chi yw ein stori ni. Cyfrannwch heddiw

Partner Teithio Trên Cymru:

Gwybodaeth

27 Mai–29 Awst 2022
Pris Mynediad cyffredinol: £10 | Gostyngiadau: £7 | Am ddim i rai dan 16 oed ac i Aelodau Amgueddfa Cymru
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Archebwch docyn o flaen llaw
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Ymweld

Oriau Agor

O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10am-4pm.

Orielau yn cau am 3.34pm.

Ar agor chwech diwrnod yr wythnos: dydd Mawrth i ddydd Sul. Ar gau dydd Llun ond agor ar ddyddiau Llun Gŵyl y Banc. 

Nadolig a'r Flwyddyn Newydd: Ar gau 23-26 Rhagfyr a 1 Ionawr. 

Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
  • Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.

Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Lleoliad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau