Digwyddiad:BBC 100 yng Nghymru: Trwy’r Lens
Mae’r BBC wedi creu pob math o raglenni eiconig dros y 100 mlynedd ddiwethaf, nifer ohonynt wedi eu cynhyrchu yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hwn i’r teulu yn dathlu’r rhaglenni hyn, a hefyd y sgiliau sydd eu hangen i greu hud a lledrith ar y sgrin.
Beth allwn ni ei wneud ar y diwrnod?
Gweithgareddau galw-heibio yw’r rhain, a does dim angen archebu -
- Cael anaf ffug a dysgu mwy am golur effeithiau arbennig.
- Chwarae gêm effeithiau sain - paru’r sŵn a’r stori.
- Dysgu am Laniad y Lleuad ym 1969 - un o’r digwyddiadau mwyaf i’r BBC eu darlledu.
- Creu eich bwletin newyddion eich hun a’i ddarllen wrth y ddesg newyddion yn yr arddangosfa.
- Camu i esgidiau Iolo Williams a mynd ar helfa fywyd gwyllt o gwmpas yr Amgueddfa.
- Gweithdy crefftau teledu.
- Gwisgo i fyny a chymryd hunlun.
- Dyfalu o ba raglen y daw’r gerddoriaeth sy’n cael ei pherfformio gan fyfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 11am a 2pm.
- Creu bwletin tywydd o flaen sgrin werdd.
- Ydych chi’n eistedd yn gysurus? Dewch i gael stori. Addas i blant iau. Sesiynau Cymraeg a Saesneg ar gael. 12pm.
- ‘Diffodd Eich Setiau Teledu’ Trwy ddawns a geiriau, mae’r Artist Symudiad Patrik Gabo yn rhannu stori sy’n edrych i’r dyfodol drwy hidlo trwy’r newyddion a’r ffordd y mae’n siapio ein gobeithion a’n breuddwydion. A allwn ni fyth fod yn unedig? Allwn ni ddychmygu byd lle mae digwyddiadau llawen yn cymryd lle trasiedi? 12pm a 1pm. Lleoliad wrth y ddesg newyddion
Mae’r gweithgareddau hyn yn digwydd ar amser penodol, ac mae angen archebu -
- Dosbarthiadau colur effeithiau arbennig. Bydd y dosbarth hwn yn cael ei gynnal gan brif artist colur Casualty. Bydd hi’n siarad am ei gyrfa ac yna’n disgrifio’r broses o roi colur effeithiau arbennig, gan arddangos y broses ar fodel.12+ Archebwch Yma
- Dosbarth gwisgoedd: o’r fflat i’r ffantastig! - gan Ivy Hible. Bydd Ivy yn dangos rhai o gyfrinachau dylunio gwisgoedd. Bydd hi’n sôn sut y daeth hi’n ddylunydd gwisgoedd, ac yn arddangos y broses mewn dosbarth meistr. 12+ Archebwch Yma
- Teithiau tywys o amgylch lleoliadau ffilmio Doctor Who yn yr Amgueddfa. Ymunwch â ni am daith fywiog o gwmpas yr Amgueddfa, yn Gymraeg.6+ Archebwch Yma
- Sgwrs: Peryglon Teithio mewn Amser. Mae teithio mewn amser yn swnio’n hwyl - ond mae’n llawn peryglon! Dewch i glywed trafodaeth ddifyr am deithio mewn amser gan Phill Wallace o Gymdeithas Seryddol Caerdydd.12+ Archebwch Yma
- Sgwrs: Gwyddoniaeth Doctor Who. Dewch i ddysgu am y wyddoniaeth go iawn sydd i’w gweld ar gyfres Doctor Who. Golwg grafog ar wyddoniaeth gan Phill Wallace o Gymdeithas Seryddol Caerdydd.12+ Archebwch Yma
Mae Aelodau Amgueddfa Cymru yn cael mynediad cynnar at docynnau i’r gweithgareddau sydd angen archebu.
Mae Bloedd Amgueddfa Cymru yn gwahodd pobl greadigol rhwng 16 a 25 oed, ac unrhyw grwpiau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, i gydweithio gyda Amgueddfa Cymru i ddatblygu projectau gaiff eu harwain gan bobl ifanc, sydd yn cynnwys pobl ifanc, neu sydd o fudd i bobl ifanc 11-25 oed, yn Gymraeg, Saesneg, BSL ac ieithoedd eraill.
Digwyddiadau eraill o ddiddordeb
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.
O ddydd Mawrth 5 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp.
Parcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.
Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
- Mae'r bwyty ar agor ar benwythnosau a gwyliau banc rhwng 11yb-3yp.
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadLleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safle >Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd