Digwyddiad: Llwyfan Newydd
Ymunwch â ni am noson unigryw i ddarganfod cyfoeth o straeon gan gymunedau amrywiol Caerdydd.
Cewch brofi project 'Circle of the 5th' gan Gavin Porter, casgliad cyfareddol o straeon am alar o bob cwr o Gymru, sy'n dod yn fyw trwy gerddoriaeth, barddoniaeth, dawns a llawer mwy.
Cewch gip tu ôl i’r llenni ar 'Broadcasting Vs Butetown', ffilm fer sy'n edrych ar brofiadau a safbwyntiau aelodau cymuned Butetown am sut mae'r BBC yn cynrychioli eu cymuned. Cewch glywed yn uniongyrchol gan y cyfranwyr a deall mwy am eu safbwyntiau am y project.
Ymhlith y perfformwyr, bydd...
Kiddus
Asha Jane
Kiddus
Blankface
Peidiwch â cholli'r cyfle euraidd yma i brofi straeon a safbwyntiau fydd yn procio'r meddwl.
Cyfeiriad archebu tocynnau
Mae mynediad Darlithfa Reardon Smith ar Blas y Parc, tu cefn i Amgueddfa Cymru.
Dolen geoleoliad:
https://goo.gl/maps/uHui8o8pv58FMctR7
Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd wrth gyrraedd, mae croeso i chi gysylltu ag aaron.schoburgh@amgueddfacymru.ac.uk.
Edrychwn ymlaen at eich gweld