Digwyddiad: Amleddau



BBC Radio Cymru ac Amgueddfa Cymru yn cyflwyno…
Amleddau – Dangosiad cyntaf ffilm gyda C&A hefo Huw Stephens.
Ymunwch a ni am y dangosiad cyntaf o Amleddau; darn unigryw gan y cyfansoddwr ac artist John Meirion Rea, gyda C&A hefo Huw Stephens i ddilyn. Bydd hefyd mynediad i Arddangosfa BBC100.
Amleddau/Frequencies
Trwy ail-gymysgu archifau BBC Radio Cymru, mae’r artist a chyfansoddwr John Meirion Rea wedi creu darn amlgyfrwng newydd i ddathlu Canmwlyddiant y darllediad cyntaf yn yr iaith Gymraeg, yng Nghaerdydd ar Chwefror y 13fed, 1923.
Mae’r gwaith yn dapestri o leisiau hen a newydd, a recordiadau sain gwreiddiol. Wrth blethu rhain gyda chyfansoddiad cerddorol gyfoes, caiff y lleisiau a’r recordiadau, a’r hyn y maent yn ei gynrychioli, eu dychwelyd i gôf y genedl. Caiff y caneuon a’r straeon eu gweu fel collage gyda recordiadau maes, a recordiadau gwreiddiol o leisiau pobl a llefydd eiconig neu leisiau o bwysigrwydd symbolaidd, yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru gyfoes.
Tocynnau : Amleddau | Amgueddfa Cymru
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.