Digwyddiad:Gweithdai Creadigol Môrwelion/The Sea Horizon
Ymunwch â ni am gyfres o weithdai creadigol wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa Môrwelion. Datgelwch haenau cudd yn ffotograffau Harry Fabian Miller o Aber Hafren ac arfordir Cymru drwy gyfrwng barddoniaeth a rhyddiaith. Mae pob gweithdy wedi'i arwain gan arbenigwr o grŵp ymchwil Image Works ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gweithdy 2: 24 Awst 2023, 12-2pm
Arweinydd: Dr. Elen Ifan, Darlithydd, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Teitl: Y Ffin a’i Ryddid: Cyfyngiadau Creadigol’; The Freedom of Boundaries: Exploring Creative Constraints
Ffurf: Gweithdy ysgrifennu
Hyd: 2 awr
Disgrifiad: Sut all cyfyngiadau roi rhyddid i ni 'sgwennwyr i arbrofi? Byddwn ni'n defnyddio Môrwelion gan Garry Fabian Miller – ffotograffau sydd wedi'u cyfosod yn unfath, ond pob un â chyd-destun gwahanol – fel sbardun i ddarganfod potensial creadigol ffiniau ffurfiol. Bydd pob cyfranogwr yn cael eu hannog i chwarae â'r rhyddid mynegiant sy'n dod law yn llaw â chyfyngu practis creadigol. Gweithdy iaith Gymraeg yw hwn.
Gwybodaeth
The Sea Horizon, Rhif 18, 1976-77
© Garry Fabian Miller
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd