Digwyddiadau

Digwyddiad: Gyda'r Hwyr: Gwyddoniaeth Ar Waith

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
14 Chwefror 2024, 6-9pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd 3+

Gyda’r Hwyr: sioe wyddoniaeth fin nos i’r teulu cyfan, gyda phob math o weithgareddau.

Ein thema eleni yw CARU’R BLANED felly bydd pob math o weithgareddau yn ymwneud â chynaliadwyedd, yn ogystal ag ambell hen ffefryn - fel y robotiaid.

Archebwch Docynnau

Cyfle i chi gwrdd â gwyddonwyr a pheirianwyr o Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd, a mwynhau llond trol o weithgareddau rhyngweithiol, hwyliog... a chael bod yn yr amgueddfa wedi iddi dywyllu!

Beth sydd i’w wneud?

  • Dewch i gwrdd â Joanne y Fôr-forwyn – biolegydd morol fymryn yn wahanol! Cewch sgwrs gyda hi am y môr.

  • Dysgwch am sut mae peirianwyr yn dylunio robotiaid sy’n gallu cropian drwy bibellau, dringo coed neu oroesi dan ddŵr.

  • Profwch eich sgiliau codio yn ein hardal robotiaid

  • Byddwch yn greadigol gyda chynaliadwyedd drwy grefftau wedi’u hailgylchu

  • Dysgwch am ffurfiau gwahanol o fellt yn yr Arddangosfa Fellt 

  • Rhowch gynnig ar lawdriniaeth orthopedig – gyda sgriwdreifar sonig!

  • Dilynwch rysáit o bryfed blasus

  • Dysgwch am effaith plastig ar fywyd morol – a beth allwch chi wneud am y peth

  • Defnyddiwch ficrosgop i edrych yn fanwl ar baill neu falwod

  • Ewch yn ôl filiynau o flynyddoedd mewn amser drwy drin a thrafod ffosiliau

  • A llawer mwy!

Bydd caffi a siop yr Amgueddfa ar agor drwy’r noson.

Digwyddiad partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd

Digwyddiadau