Digwyddiadau

Digwyddiad: Artes Mundi Sesiynau Galw Heibio i Deuluoedd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
14 a 15 Chwefror 2024, 11am - 2pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Plant oed 5-10
Archebu lle Galw heibio

Yn ystod hanner tymor mis Chwefror byddwn yn gwahodd teuluoedd i ddathlu gwaith Rushdi Anwar, Alia Farid a Mounira Al Solh. 

 

Dewch draw i greu eich gwaith celf eich hun wedi’i ysbrydoli gan waith yr artistiaid. Dyma gyfle i archwilio cerflunwaith, tecstilau a thechnegau lluniadu. 

Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio ar gyfer plant 5-10 oed, ond mae croeso i bawb ac rydyn ni’n eich annog i feddwl am ‘deulu’ yn yr ystyr ehangaf – dewch â’ch teulu, eich ffrindiau, eich cymdogion ac unrhyw un rydych chi’n meddwl a fyddai’n mwynhau arbrofi a chwarae gyda deunyddiau. 

 

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11am a 2pm. Does dim angen archebu lle. Rhaid i rieni neu warcheidwaid fod gyda phlant dan 16 oed drwy’r amser.

Gwisgwch ddillad nad ydych chi'n poeni gormod am eu baeddu. 

Digwyddiadau