Digwyddiadau

Digwyddiad: Datganiad ar yr Organ

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
31 Mai 2024, 13:00
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Organ siambr Watkin Williams-Wynn, a adeiladwyd gan John Snetzler ac a gynlluniwyd gan y pensaer neo-glasurol Robert Adam (1728-92).

Organydd Emma Gibbins

Ymunwch â ni am 1pm ar ddydd Gwener 31 Mai, am yr ail gyngerdd mewn cyfres newydd o ddatganiadau ar yr organ hanesyddol Williams-Wynn Wynnstay o'r 18fed ganrif.

Bydd organydd cyngherddau Emma Gibbins yn chwarae rhaglen 30 munud arbennig. 

Dechreuodd Emma Gibbins ei gyrfa gerddorol fel sgolor organ yng Ngholeg Penfro, Caergrawnt, cyn symud i fod yn sgolor organ yn St. Martin-in-the-Fields a Chadeirlan Southwell. Astudiodd am radd MMus Perfformiad Organ yn y Coleg Cerdd Brenhinol, cyn treulio nifer o flynyddoedd yn gweithio yn Llundain a’r cyffiniau fel Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Plwyf High Wycombe, Organydd Cyswllt yn St. Sepulchre-without-Newgate yn Ninas Llundain, Cyfarwyddwr côr merched newydd yn Eglwys Brentwood yn Essex, a chyfeilydd Cymdeithas Gorawl De-orllewin Llundain.

Symudodd Emma i Ogledd Iwerddon yn 2008 i ddod yn Gyfarwyddwr Cerdd Eglwys St. Georges, ble roedd hi hefyd yn dysgu’r piano a’r organ, yn cyfarwyddo Côr Phoenix Belfast, ac yn cyfeilio yn adran gerdd Prifysgol Queens ac i St George’s Singers. 

Symudodd i Gasnewydd yn 2015 fel Cyfarwyddwr Cerdd Eglwys Gadeiriol Casnewydd, ble mae hi’n gyfrifol am gyfarwyddo y côr oedolion, y côr bechgyn, a’r côr merched a wnaeth hi ei ffurfio o’r newydd. Mae hefyd yn dysgu’r piano a’r organ, yn cyfarwyddo Adams Chorale ac yn cyfeilio i ‘Gorws N’ad fi’n Angof’ Casnewydd i bobl sy’n byw gyda dementia.

Gan fod llefydd yn gyfyngedig yn yr oriel, bydd archebu ymlaen llaw yn hanfodol. 

 Tocynnau    
 

 Noddir gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru.

Digwyddiadau