Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae’r profiad paentio ar y cyd unigryw hwn, sy’n cael ei gynnal ar ôl amser cau ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn un na fyddwch am ei fethu.
Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod neu’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae hwn yn ddigwyddiad sydd at ddant pawb – does dim angen profiad blaenorol i gymryd rhan.
Dewch i ymlacio a dysgu sgiliau newydd ar yr un pryd. Mae hwn yn ddigwyddiad canol wythnos perffaith gyda’r nos ar gyfer ffrindiau, cydweithwyr a chyplau.
Dewch gyda’ch ffrindiau, ewch i nôl diod wrth y bar, a dechreuwch baentio!
I ddathlu ein harddangosfa dros dro, Drych ar yr Hunlun, sy’n cynnwys Portread o’r Artist (1887) gan Van Gogh sydd ar fenthyg o’r Musée d’Orsay ym Mharis, bydd y digwyddiad paentio ar y cyd hwn yn canolbwyntio ar droi hunluniau yn hunanbortreadau campus!
Tynnwch hunlun a dysgwch sut i baentio hunanbortread yn arddull a phalet lliw Van Gogh.
*Cofiwch ddod â’ch ffôn clyfar i’r digwyddiad i’w ddefnyddio fel man cyfeirio. Os nad ydych am baentio portread ohonoch chi’ch hunain, tynnwch lun o rywun sy’n annwyl i chi cyn dod, a cewch baentio nhw yn lle.
Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy’n cynnal y profiad hwn. Bydd hi’n eich arwain drwy gyfarwyddiadau cam wrth gam wrth baentio gyda chi.
TOCYNNAU
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd