Digwyddiad:Gweithgaredd Dementia Gyfeillgar: Y Lleuad
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen
Gwybodaeth
19 Mawrth 2026,
1:30-4pm
Pris
Am Ddim
Addasrwydd
Pawb sydd wedi’u heffeithio gan ddementia
Archebu lle
Hanfodol
Ymunwch a ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i fwynhau gosodwaith 'Amgueddfa'r Lleuad'. Dysgwch fwy am y Lleuad, yr hanesion a'r chwedlau mae hi wedi'u hysbrydoli, a rhannu eich profiadau eich hun. Yn dilyn hyn, bydd gweithgaredd crefft ysgafn.
Bydd y sesiwn yn cynnwys:
Croeso cynnes mewn lleoliad pwrpasol
Cyfle i fwyhau gweithgaredd crefft ysgafn
Diod gynnes a sgwrs
Bydd y sesiwn i gyd yn yr Amgueddfa, felly bydd dim angen cerdded yn bell o le i le. Mae'r sesiwn yn para tua 2.5 awr, gydag egwyl a lluniaeth yng nghaffi'r Amgueddfa.
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd