Digwyddiad:Taith Feddylgar yn Edrych yn Araf ar arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Ymunwch â ni ar Daith Feddylgar fydd yn gyfle i edrych yn araf ar arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod.

Roedd yr artist Gwen John yn gweld y byd yn wahanol – yn dawel, yn astud, a gyda dyfnder rhyfeddol. Dyma gyfle i weld y byd drwy lygaid Gwen, i arafu, edrych yn fanylach, ac ymlacio wrth edrych yn araf ac anghofio popeth rydych chi'n ei wybod am gelf, a phopeth rydych chi'n meddwl y dylech chi ei wybod.

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cynhelir y daith hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
  • Bydd y daith hon yn ddwyieithog.
  • Bydd y digwyddiad yn para tua 60 munud.
  • Oedran addas: 18+
  • Cwrddwch â’ch tywysydd wrth y dderbynfa flaen yn y prif neuadd, a chyrhaeddwch o leiaf 10 munud cyn i’r daith ddechrau.

Gellir dod o hyd i’r holl wybodaeth hygyrchedd am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yma.

Gwybodaeth

21 Mawrth 2026, 11:00yb | 2:00yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion
Paentiad â thôn tawel o ffigwr yn eistedd, yn gwisgo dillad rhydd glas â gwead, yn erbyn cefndir niwtral plaen. Mae’r gwaith celf yn arddull argraffiadol meddal gyda strôciau brwsh amlwg a manylion cyfyngedig.
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Tocynnau

Dyddiad Amseroedd ar gael
21 Mawrth 2026 11:00 Gweld Tocynnau
21 Mawrth 2026 14:00 Gweld Tocynnau

Ymweld

 Mynediad

Am Ddim

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru. 

Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad. 

Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa

 Oriau Agor

Monday Ar gau
Tuesday 10 am–5 pm
Wednesday 10 am–5 pm
Thursday 10 am–5 pm
Friday 10 am–5 pm
Saturday 10 am–5 pm
Sunday 10 am–5 pm
orielau yn cau am 4.45pm.

 Parcio

Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Bydd ymwelwyr yn cael tocyn wrth gyrraedd ac yn talu £6.50 am y dydd yn fan talu yng nghefn y maes parcio.

Nodwch, ni fydd y mannau talu yn derbyn arian parod, dim ond taliad cerdyn. Gall ymwlewyr dewis i dalu gan ddefnyddio unrhyw cerdyn credyd/debyd (heblaw American Express) neu Apple neu Android Pay.

Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Defnyddiwch yr intercom wrth yr allanfa i wirio eich trwydded bathodyn glas. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

 Bwyta, Yfed, Siopa

  • Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.

  Ystafell aml-ffydd

Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.

Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.

Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.

 Lleoliad

 Map safle

Map Safle

 Mynediad

Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.

Canllaw Mynediad

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau