Arddangosfa:Picture Post: Eicon o’r Ugeinfed Ganrif
Cyn newyddion 24 awr a’r cyfryngau cymdeithasol, sut oedd pobl yn gweld y byd? Yn y 1930au, gweddnewidiodd Picture Post y ffordd roedd Prydain yn deall ei hun. Cipiodd y cylchgrawn ffotograffig arloesol hwn fywyd bob dydd, digwyddiadau mawr ac ymagweddau cymdeithasol newidiol, gan gyrraedd 1.7 miliwn o ddarllenwyr ar ei anterth.
Mae’r arddangosfa hon yn dod â Picture Post yn fyw drwy ffotograffiaeth drawiadol, gan ddatgelu sut y trawsnewidiwyd Prydain o’r 1930au i’r 1950au. O ryfel a gwleidyddiaeth i gyfnodau o newid diwylliannol, dyma gyfle i ddarganfod yr adegau a ddiffiniodd Prydain.
Dewch i brofi grym ffotograffiaeth i hysbysu, herio a chysylltu – fel y gwnaeth Picture Post am genhedlaeth.
Datblygwyd yr arddangosfa hon mewn partneriaeth ag Archif Hulton (Getty Images) a Chanolfan Hanes y Cyfryngau Tom Hopkinson (Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd).
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi'n hael gan chwaraewyr People's Postcode Lottery.
Mewnfudwyr o India'r Gorllewin yn cyrraedd Gorsaf Victoria ar ôl eu taith o Ddociau Southampton.
© Haywood Magee/Picture Post/Hulton Archive/Getty Images
Tocynnau
Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
---|---|---|
24 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
25 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
26 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
27 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
28 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
29 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
30 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
31 May 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
1 June 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |
3 June 2025 | Trwy'r Dydd | Gweld Tocynnau |