Dere ar daith drwy ddiwylliant Hip Hop yng Nghymru.
Mae Hip Hop: Stori Cymru yn arddangosfa ddeinamig sy’n dathlu esblygiad y genre a’r gelfyddyd yng Nghymru. Dewch i glywed am y bîts, y brecio a’r ffasiwn trwy straeon y bobl sydd wedi siapio Hip Hop drwy’r degawdau.
Blas ar y Diwylliant
Dere i brofi Hip Hop yng Nghymru – ddoe, heddiw ac yfory:
Darganfod byd lliwgar celf stryd
Tyrcha trwy’r blychau o finyl sy wedi diffinio ein sîn Hip Hop.
Dathlu Cymuned Hip Hop
Mae Hip Hop: Stori Cymru yn fwy nag arddangosfa – dyma wahoddiad i gymryd rhan, meddwl a theimlo curiad calon cymuned Hip Hop. Trwy’r artistiaid, y dawnswyr a’r cymunedau sy’n rhan o sîn Hip Hop fywiog Cymru i’r brwydrau, digwyddiadau ac ysbryd o undod, mae cymuned Hip Hop Cymru yn fyw ac yn iach.
Tocynnau
Mae'r arddangosfa yn rhad ac am ddim ac gallwch archebu tocynnau cyn ymweld. Gwnewch gyfraniad go iawn at ein gwaith o adrodd straeon rhyfeddol Cymru gan roi beth allwch chi – mae eich rhoddion yn ein helpu i sicrhau y gall Amgueddfa Cymru barhau i gynnal arddangosfeydd ysbrydoledig.
Gwrandewch ar ein rhestr chwarae arbennig ar Spotify…
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd