Digwyddiad:Parti Paentio: Paentio ar y Cyd i Deuluoedd
Digwyddiad Paentio ar y Cyd cyntaf 2026 - ac hip hip yw'r thema !
Dewch i gymysgu ar y decks yn yr arddangosfa Hip Hop newydd a chael eich ysbrydoli i gymysgu paent. Ac mae ganddon ni fodel newydd – Bryn y Teigr!
Os ydych chi’n mwynhau paentio’n barod neu am roi cynnig ar rywbeth newydd dros y gwyliau, mae hwn yn ddigwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau gyda’i gilydd.
Mae’r parti paentio unigryw yn y Brif Neuadd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn gyfle rhy dda i'w fethu dros hanner tymor Chwefror.
Dewch i greu atgofion am oes. Mae croeso i bawb, felly dewch â'r teulu cyfan! (argymhelliad oed 6+).
Thema: Bryn y Teigr
Dewch i gael amser gwyllt gyda Bryn, y teigr Swmatra o gasgliad anifeiliaid asgwrn cefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'n symbol o gryfder, steil, a dyfalbarhad (ac yn un o ffefrynnau ein hymwelwyr).
Ymunwch a ni mewn parti paentio i gymysgu cerddoriaeth a phaent. Dewch i ymgolli yn y gerddoriaeth neu i gwrdd â'r teigr – dyma gyfle i ddangos eich lliwiau.
Yr artist lleol Rachel Rasmussen sy'n cynnal y parti paentio. Bydd hi'n rhoi cyngor a chyfarwyddiadau wrth baentio gyda chi.
Gwybodaeth Bwysig:
Bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu ac yn cael eu cynnwys ym mhris y tocyn.
Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan ac yn addas i bob oed a gallu (argymhelliad oed 6+).
Rhaid i bob plentyn fod yng ngofal rhiant neu warcheidwad drwy gydol y digwyddiad. Mae hwn yn ddigwyddiad i'r teulu cyfan, ac rydyn ni'n awgrymu'n gryf i'r oedolion gymryd rhan hefyd, a mwynhau gyda'ch gilydd.
Ni ellir ad-dalu tocynnau ac mae llefydd yn brin iawn. Bachwch eich tocynnau nawr!
Bydd y digwyddiad yn cael ei gyflwyno a’i arwain yn iaith gyntaf yr artist, sef Saesneg.
Gwybodaeth
Wyneb teigr ar gefndir celf stryd lliwgar.
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd