Arddangosfa:Dathlu Turner 250

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

I nodi 250 o flynyddoedd ers geni un o artistiaid mwyaf nodedig Prydain, rydyn ni’n falch o arddangos gweithiau celf gan Joseph Mallord William Turner (1775 – 1851) yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Daeth Turner yn un o artistiaid mwyaf blaenllaw ei gyfnod, gan wthio ffiniau a herio ffyrdd academaidd traddodiadol o baentio. Archwiliodd ffyrdd newydd o greu awyrgylch yn ei weithiau a dywedodd unwaith mai ‘naws yw fy arddull i’. 

Mae’r gwaith yn amrywio o beth o’i waith cynnar sy’n cynnwys darluniau o Gymru, cafodd ei arlunio pan yn artist ifanc yn teithio Cymru yn ystod y 1790au, hyd at ei ddarluniau mwy diweddar oedd yn cynnwys darluniau o’r môr a chafodd ei arlunio tuag at ddiwedd ei fywyd. Fe ffeindiodd Turner tirwedd ac adfeilion hynafol Cymru yn ysbrydoledig. Un esiampl fydd i’w weld yw Croesfa Priordy Ewenni, gwaith a grëwyd ar ôl iddo ymweld â’r Briordy ar daith i dde Cymru ym 1795. 

Gwybodaeth

Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
ddelwedd o oriel turner
Turners ar wal glas gyda geiriau mewn aur sy'n dweud
Fframiau Aur gyda gwaith turner ar wal glas.

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau