Sgwrs:Tu ôl i’r Llenni: Broetsys Rhufeinig: mwy na gwrthrychau tlws
Mae broetsys ymhlith yr eitemau gwaith metel Rhufeinig sy’n cael eu darganfod amlaf: ar safleoedd cloddio ac fel darganfyddiadau achlysurol. Dyma gyfle i weld enghreifftiau o'r amrywiaeth o fathau o froetsys sydd wedi’u canfod. Bydd yr ymweliad hefyd yn ystyried beth all astudio broetsys ei ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r cyfnod Rhufeinig.
Gwybodaeth Bwysig
- Bydd y daith yn para tua 60 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.
- Cynhelir y sgwrs hon yn yr ystafell astudio arteffactau Archaeolegol.
- Mae'r daith yn costio £8 y pen.
- Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.
- Oherwydd natur tu ôl i'r llenni'r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi'n agos iawn at ymwelwyr eraill a'r curadur.
- Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy'n cyrraedd yn hwyr.
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd