Digwyddiad:Dyfal Droi y Garreg: Held Fast Running Club
Pwy sy’n gallu rhedeg yn rhydd, ac yn ddiogel, drwy ofod cyhoeddus?
Gan chwarae gyda phrofiad o bellter – pa mor agos allwch chi fynd at waith celf, pa mor gysylltiedig yw dau sefydliad diwylliannol, faint o berthynas allwn ni ei deimlo â'n gilydd ar draws gwleidyddiaeth gwahaniaethau hunaniaeth? – byddwn yn rhedeg cylch 5km, o dan arweiniad Christine Mak. Bydd Christine yn gwisgo crys rhedeg pwrpasol sy'n cario gwaith celf o Gasgliad Allgymorth Ysgolion Amgueddfa Cymru, a byddwn yn ymweld yn gyflym â dau safle Dyfal Droi y Garreg fel rhan o'r daith.
Mae croeso i bawb: mae'r clwb rhedeg yma am ddim, yn gymdeithasol ac ar gyfer pob gallu. Byddwn yn rhedeg llwybr 5km ar balmentydd a llwybrau troed o Chapter, drwy Barc Bute i'r Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ôl. Gwisgwch esgidiau rhedeg a dillad cyfforddus sy’n addas i redeg ynddynt.
Os ydych chi o dan 18 oed, dewch ag oedolyn i redeg gyda chi!
Gwybodaeth
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd