Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Cyflwyniad i Gwen John: Hardd a Hynod
Ymunwch â'r Uwch Guradur Celf, Lucy Wood, i glywed sgwrs yn cyflwyno arddangosfa fawr newydd Gwen John: Hardd a Hynod.
Ganrif a hanner ers geni'r artist arloesol mae Hardd a Hynod yn cyflwyno cyfoeth o weithiau o gasgliad ar bapur stiwdio'r artist, nifer yn cael eu harddangos am y tro cyntaf.
Bydd y sgwrs yn dathlu bywyd a gwaith Gwen John yn cael ei chynnal yn yr orielau, yng nghysgod ei gweithiau gorau.
Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa, a thocynnau, ewch i: Gwen John: Hardd a Hynod.
Am y Curadur
Mae Lucy Wood yn Uwch Guradur Celf yn Amgueddfa Cymru. Hi yw curadur arddangosfa Gwen John: Hardd a Hynod a chyd-awdur y monograff ategol. Cyn hyn roedd hi'n guradur project arddangosfa Feminine Power: The Divine to the Demonic (2022), ac yn Guradur Cyswllt Modern a Chyfoes yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol lle bu hi'n curadu arddangosfeydd fel Elizabeth Peyton: Aire and Angels (2019) a Njideka Akunyili Crosby: The Beautyful Ones (2018). Mae hi'n ymgeisydd PhD mewn Diwinyddiaeth ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn aelod o fwrdd Canolfan Athroniaeth a'r Celfyddydau, Coleg y Brenin Llundain.
Gwybodaeth bellach
Ni chaniateir bwyd na diod yn yr Orielau.
'A Corner of the Artist's Room in Paris' | Gwen John
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd