Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
© Eleri Morgan
Cymerwch eiliad ym mis Mawrth i oedi ac ymlacio mewn sesiwn ioga arbennig iawn, o dan harddwch tawel a nefol Amgueddfa'r Lleuad.
Bydd y sesiwn dawelu hon dan arweiniad yr hyfforddwraig ioga Eleri Morgan yn help i ymlacio gyda’r nos ym mawredd hanesyddol Prif Neuadd yr Amgueddfa – y tonig perffaith wrth i'r haul fachlud a’r lleuad godi. Llifwch drwy symudiadau ysgafn wedi'u cynllunio i adfywio’r meddwl, y corff a’r enaid.
Gwybodaeth bwysig:
Mae'r sesiwn yn addas i oed 18+. Ni fydd unrhyw un o dan yr oedran hwn yn cael mynediad i'r digwyddiad.
Bydd y sesiwn yn para tua 90 munud. Nid oes mynediad i'r orielau na gweddill yr Amgueddfa cyn nac ar ôl y sesiwn.
Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Brif Neuadd o dan ein lleuad newydd! Mae rhai matiau ioga ar gael ond rydyn ni'n eich annog i ddod â'ch mat eich hun.
Rydyn ni'n croesawu ac yn annog unrhyw lefel o brofiad ioga, ond cymerwch ofal wrth archebu a chofiwch ystyried eich iechyd eich hun.
Ni fydd ein caffi ar agor ar gyfer y digwyddiad hwn, felly dewch â dŵr gyda chi. Ni chaniateir bwyd poeth na diodydd yn yr ardal ioga.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery.
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd