Digwyddiad:Stori Amser Gwely gyda Babis Bach Babies

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi'i Orffen

Awn ni i'r lleuad ac yn ôl cyn amser bath? Beth Nesaf? Ymunwch â Babi Arth wrth iddo adeiladu roced, gwneud ffrindiau gyda thylluan a chael picnic ar y lleuad!  

Dewch i swatio yn eich pyjamas mwyaf cyfforddus, cwtsho eich hoff dedi a mwynhau noson hudolus o gerddoriaeth a straeon o dan Amgueddfa’r Lleuad.  

Rydyn ni'n dod â chlasur annwyl Jill Murphy Beth Nesaf? yn fyw mewn sesiwn ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) fydd yn llawn straeon, cerddoriaeth telyn fyw, canu a chwarae offerynnau. Perffaith ar gyfer babanod, plant bach a phlant hyd at 7 oed. Mae rhywbeth i bawb! 

Mae Babis Bach Babies yn cyfuno cerddoriaeth fyw gan gerddorion clasurol ag adrodd straeon rhyngweithiol. Nod eu sesiynau yw cefnogi addysg blynyddoedd cynnar drwy annog dysgu ieithoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, cyflwyno themâu amserol drwy ganeuon a symud a datblygu hyder drwy gymryd rhan.  

Bydd Cathryn McShane-Kouyaté yn cyfieithu'r ddwy sesiwn ar 1 Ebrill mewn Iaith Arwyddion Prydain. 

Gwybodaeth bwysig: 

Mae'r sesiwn yn berffaith ar gyfer babanod a phlant bach hyd at 7 oed – ond gall unrhyw un ymuno yn yr hwyl! 

Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Brif Neuadd o dan ein lleuad newydd! Bydd matiau i eistedd arnyn nhw. Mae croeso i chi ddod â blanced a gobennydd, ond dim duvets, os gwelwch yn dda. 

Mae croeso mawr i chi ddod â'ch pyjamas a'ch hoff deganau anwes! Cofiwch fod rhaid gwisgo esgidiau bob amser. Efallai dylech chi wisgo'n gynnes hefyd! 

Mae croeso i chi ddod â byrbryd cyn gwely ond dydyn ni ddim yn caniatáu bwyd poeth. Ni fydd ein caffi ar agor ar gyfer y digwyddiad hwn ond bydd dŵr ar gael.   

£15 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn. £8 ar gyfer plant/oedolion ychwanegol. Pan fydd y prif docyn yn y fasged siopa ar-lein, gallwch chi ddewis tocynnau ychwanegol. 

Bydd Cathryn McShane-Kouyaté yn cyfieithu'r ddwy sesiwn ar 1 Ebrill mewn Iaith Arwyddion Prydain. 

Nifer cyfyngedig o lefydd ar gael. Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.

Diolch o galon i ystâd Jill Murphy am ganiatáu i ni ddefnyddio'r stori. Whatever Next! © 1983 wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Jill Murphy. Cyhoeddwyd gan Macmillan. 
 
Cyfieithiad Beth Nesaf? gan Roger Boore. Cyhoeddwyd gan Dref Wen. 

Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery. 

Gwybodaeth

1 Ebrill a 7 Ebrill, 5yp ac 6.30yp
Pris £15.00 (Tocyn oedolyn a phlentyn); £8.00 (i bob oedolyn a phlentyn ychwanegol)
Addasrwydd Teuluoedd
Storiwr yn siarad gyda plentyn ifanc

© Kelly Rawlings

Darlun o arth yn edrych ar y lleuad tu allan i'r ffenest

© Jill Murphy

Lleuad artifisial yn hongian tu fewn i eglwys gadeiriol

Museum of the Moon gan Luke Jerram (Eglwys Gadeiriol Ely, 2019)

Logo People's Postcode Lottery
Ychwanegu i Outlook / Apple Calendar Ychwanegu i Google Calendar

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau